Offeryn rhyngweithiol UGY: Dewis mathau o weithredu
Efallai eich bod yn codi’r canllaw hwn ar ôl darllen neu ddefnyddio offeryn 1 a/neu 2, ac os felly, dylai fod gennych: (a) ymddygiad targed a phoblogaeth wedi’u diffinio’n glir, a (b) mewnwelediadau yn ymwneud â’r rhwystrau a’r hwyluswyr i’r ymddygiad dymunol.
Os nad ydych wedi darllen neu ddefnyddio offer 1 a 2 ond bod gennych rywfaint o fewnwelediad ymddygiad yr hoffech ei ddefnyddio, bydd yr offeryn hwn yn gweithio i chi hefyd, ond rydym yn awgrymu eich bod yn darllen offeryn 3 yn gyntaf. Erbyn i chi gwblhau’r offeryn hwn, byddwch wedi nodi math(au) o weithrediad priodol ar gyfer eich ymyrraeth.
Yn offeryn 5, rydym yn archwilio sut i adeiladu, datblygu neu addasu ymyraethau gan ddefnyddio technegau newid ymddygiad. Technegau newid ymddygiad yw ‘cynhwysion gweithredol’ ymyrraeth sy’n seiliedig ar theori a thystiolaeth. Os ydych wedi cwblhau offer 3, 4 a 5 bydd gennych naill ai ymyrraeth newydd, neu ymyrraeth ddiwygiedig, sydd wedi’i datblygu gan ddefnyddio gwyddor ymddygiad ac sy’n debygol o fod yn fwy effeithiol o ran ennyn yr ymddygiad/newid dymunol. Bydd yr offeryn olaf, offeryn 6, yn ymdrin â sut i weithredu, dosbarthu a gwerthuso eich ymyrraeth.