Offeryn archwilio llwybr beichiogrwydd anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM)
Mae’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol, mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru, wedi adolygu a diweddaru llwybr Clinigol Cymru Gyfan ar gyfer FGM, a hynny er mwyn cefnogi ymarfer proffesiynol wrth adnabod a rheoli FGM.
Mae’r canllawiau diweddaraf i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar draws GIG Cymru yn rhoi cyngor ar sut i ymateb yn briodol pan fo pryderon ynghylch FGM ac yn rhoi gwybodaeth am eu dyletswydd i adrodd.