Neidio i'r cynnwys

Offer asesu risg EAC – Meini prawf ar gyfer cwblhau asesiad risg lleol – Ardaloedd cleifion mewnol acíwt

Medi 2024, Fersiwn 2a

Diben

Cynorthwyo byrddau iechyd/ymddiriedolaethau a chyflogwyr i gynnal asesiad risg lleol yng nghyddestun rheoli heintiau feirysol anadlol tymhorol gan ganolbwyntio ar y ffliw, SARS-CoV-2 a Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) ac unrhyw Heintiau Anadlol Acíwt (ARI) fel cânt eu blaenoriaethu yn yr hierarchaeth rheolaethau.

Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

  • Set o fesurau lliniaru risg wedi’u blaenoriaethu yn y drefn: dileu, amnewid, peirianneg,
    rheolaethau gweinyddol, a chyfarpar diogelu personol (gan gynnwys cyfarpar diogelu anadlol
    [RPE]).
  • Rhaid i asesiadau risg gael eu cynnal ym mhob maes gan berson cymwys sydd â’r sgiliau, yr
    wybodaeth, a’r profiad i allu adnabod y peryglon sy’n gysylltiedig â chyfryngau anadlol heintus:
    gall hwn fod yn gyflogwr, neu’n berson a benodwyd yn benodol i gwblhau’r asesiad risg. Dylid
    cyfathrebu â gweithwyr yn ystod y broses hon ac ar ôl cwblhau’r asesiad risg.

Gellir defnyddio’r asesiad risg gorffenedig i lenwi systemau rheoli risg lleol.