Newidiadau i frechu rhag yr eryr yng Nghymru – pecyn briffio
Mae brechu rhag yr Eryr yn newid yng Nghymru – a ledled y DU, fel bod mwy o bobl yn gymwys i gael y brechlyn.
Rhwng mis Medi 2023 a mis Medi 2033 bydd brechlyn yr eryr yn cael ei gynnig fesul cam i bawb yng Nghymru sy’n 60 oed tan eu pen-blwydd yn 80 oed. O fis Medi 2023 bydd y rhai sy’n ddifrifol imiwnoataliedig (sydd â system imiwnedd wan iawn oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol) yn gymwys i gael eu gwahodd i gael y brechlyn o 50 oed, heb derfyn oedran uchaf.
Mae’r newid hwn yn seiliedig ar gyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI). Bydd yn cael ei gyflawni gan feddygfeydd teulu yn y dull fesul cam a argymhellir a bydd eu meddyg teulu yn cysylltu â chleifion pan fyddant yn gymwys.
Felly o fis Medi, dylai’r rhai sy’n cyrraedd 65 oed neu 70 oed gael eu galw i mewn ar/ar ôl eu pen-blwydd yn 65 oed neu 70 oed.