Newid hinsawdd yng Nghymru: Asesiad o’r effaith ar iechyd – infograffeg
Mae’r asesiad hwn o’r effaith ar iechyd (HIA) yn arfarniad strategol a chynhwysfawr o oblygiadau posibl newid hinsawdd yn y dyfodol agos i’r hirdymor ar iechyd poblogaeth Cymru. Mae’n darparu tystiolaeth gadarn i hysbysu cyrff cyhoeddus, asiantaethau a sefydliadau yn eu paratoadau ar gyfer newid hinsawdd a digwyddiadau newid hinsawdd a’u hymatebion iddynt. Ei nod yw cefnogi mabwysiadu polisïau a chynlluniau a all hybu a diogelu iechyd a llesiant i bawb yng Nghymru ac yn y grwpiau poblogaeth ac ardaloedd daearyddol hynny sydd mewn perygl arbennig o effeithiau negyddol.
Mae allbynnau’r gweithgarwch HIA yn cynnwys:
• Adroddiad Cryno HIA seiliedig ar dystiolaeth
• Set o 4 ffeithlun
• Dec sleidiau PowerPoint
• Adroddiad Technegol
Gweld y adroddiad technegol cysylltiedig.
Gweld y sleidiau PowerPoint sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn.