Methiant i fynd ag unigolyn i apwyntiadau iechyd / ni chafwyd mynediad
Paratowyd y cyfarwyddyd hwn ar gyfer holl aelodau staff GIG Cymru a phartneriaid diogelu perthnasol. Mae’n darparu cyfeiriad strategol ac yn amlinellu egwyddorion er datblygu polisïau, gweithdrefnau a phrosesau lleol i nodi ac asesu risgiau, a mesurau diogelu addas yn brydlon.
Mae apwyntiadau a gollwyd ac ymweliadau dim mynediad yn themâu sy’n codi dro ar ôl tro mewn Adolygiadau Ymarfer Plant, Adolygiadau Ymarfer Oedolion ac Adolygiadau Lladdiadau Domestig ledled Cymru a’r DU. Gall y rhain fod yn arwyddion rhybudd cynnar o gam-drin neu esgeulustod, yn enwedig pan fydd apwyntiadau yn cael eu colli dro ar ôl tro, a hynny heb esboniad. Mae’n hanfodol i nodi’r patrymau hyn ac ymateb yn briodol.
Cyfarwyddyd GIG
Mae’r Gwasanaeth Diogelu Cenedlaethol, mewn cydweithrediad â Rhwydwaith Diogelu GIG Cymru, wedi datblygu’r canllawiau GIG Cymru hyn i ddarparu fframwaith strategol i sefydliadau GIG Cymru a phartneriaid diogelu amlasiantaeth. Mae’n cefnogi dull cyson, system-gyfan, o ymdrin â sefyllfaoedd pan mae methiant i fynd ag oedolyn sydd mewn perygl i apwyntiad wedi’i drefnu (wyneb yn wyneb neu rithwir), neu pan nad yw gweithwyr proffesiynol yn gallu cael mynediad yn ystod ymweliad cartref wedi’i gynllunio. Gall senarios o ddiffyg presenoldeb a dim mynediad ddangos anghenion heb eu diwallu neu bryderon diogelu. Mae’r canllawiau hyn yn amlinellu egwyddorion a disgwyliadau allweddol i sicrhau ymateb diogelu rhagweithiol a chydlynol ar draws GIG Cymru.
Cyfrifoldeb diogelu a dull darlun cyfan
Mae cydweithio amlasiantaethol yn parhau i fod yn hanfodol i ddarparu gofal a chymorth holistaidd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, a sicrhau nad oes neb mewn perygl oherwydd colli cyswllt gofal iechyd. Mae’r canllawiau’n cynnwys cyfres o Ffactorau Adnabod Risg y gellir eu defnyddio ochr yn ochr â barn broffesiynol a gweithdrefnau amlasiantaeth, er mwyn cefnogi ymarferwyr i ddeall y dull ‘darlun cyfan’.