Mae canlyniadau eich prawf gwaed yn dangos efallai eich bod yn gludydd beta thalassaemia
Mae’r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych chi’n feichiog ac wedi cael prawf gwaed sy’n dangos y gallech chi fod yn gludydd thalasaemia beta (a elwir yn aml yn meddu ar ‘nodwedd’ neu ‘trait’).
Mae’r daflen hon yn rhoi gwybodaeth i chi am fod yn gludydd, a’r hyn y mae’n yn ei olygu i chi a’ch teulu.
Gan na all eich prawf sgrinio gadarnhau a ydych yn gludydd beta thalasaemia, rydym wedi ysgrifennu’r wybodaeth yn y daflen i ddarparu gwybodaeth i chi fel pe baech yn gludydd beta thalasaemia ac i’ch helpu i ddeall a oes angen cymryd camau pellach yn ystod eich beichiogrwydd.