Gwybodaeth i dadau sy’n cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio ar gyfer anhwylder y crymangelloedd a thalasaemia difrifol
Mae’r wybodaeth hon ar gyfer tadau sy’n cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio ar gyfer cyflyrau haemoglobin fel anhwylder y crymangelloedd a thalasaemia difrifol.
Mae’r prawf yn rhoi gwybodaeth a allai fod yn bwysig i iechyd eich babi heb ei eni ac unrhyw blant y byddwch yn eu cael yn y dyfodol. Rydym yn esbonio’r prawf, y rheswm dros ei gynnig, yr hyn mae’n gallu ei ddangos a’r dewisiadau y gallwch eu gwneud.
Os ydych am gael y prawf, mae’n bwysig ei gael cyn gynted â phosibl – gorau po gyntaf yn ystod beichiogrwydd eich partner (rydym yn argymell o fewn tri diwrnod gwaith i gael cynnig y prawf gan y gweithiwr iechyd proffesiynol). Dylech fod eisoes wedi cael cynnig prawf, felly cadarnhewch gyda’r gweithiwr iechyd proffesiynol y byddwch yn mynd iddo.