Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth am fesuriadau sgan anomaledd y ffetws

Mae’r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os mai mesuriad bach yw’r unig ganfyddiad annisgwyl ar eich sgan anomaledd y ffetws. Bydd eich bydwraig neu feddyg ysbyty (obstetrydd) yn esbonio’n fanylach pa brofion a gofal y gallai fod eu hangen arnoch. Mae pob menyw feichiog yng Nghymru yn cael cynnig sgan anomaledd y ffetws pan fyddan nhw rhwng 18 ac 20 wythnos o feichiogrwydd.

Mae’r sgan yn gwirio a yw’n ymddangos bod eich babi yn datblygu yn ôl y disgwyl. Golyga hyn y gallai ddangos canfyddiadau annisgwyl, megis mesuriad bach, ac efallai y cynigir profion pellach i chi.

Fideo

Fersiwn BSL