Neidio i'r cynnwys

Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Lles Cynaliadwy i Bobl Cymru – tystiolaeth gefnogol

Mae’r adnodd hwn yn darparu tystiolaeth ategol ar gyfer yr adroddiad ‘Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Lles Cynaliadwy i Bobl Cymru’. Mae’r adroddiad yn cyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth arbenigol i gefnogi camau gweithredu ar atal salwch a lleihau anghydraddoldebau er mwyn sicrhau economi gynaliadwy, cymdeithas sy’n ffynnu, ac iechyd a llesiant gorau posibl i bobl Cymru. Mae canfyddiadau’r adroddiad yn nodi tri maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ataliol: adeiladu gwytnwch ar draws cwrs bywyd ac mewn lleoliadau, mynd i’r afael ag ymddygiadau niweidiol a diogelu iechyd, a mynd i’r afael â phenderfynyddion economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach iechyd.

Darllenwch yr adroddiad llawn sy’n ymwneud â’r dystiolaeth ategol yma.

Edrychwch ar yr ffeithlun sy’n ymwneud â’r dystiolaeth ategol yma.