Neidio i'r cynnwys

Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Lles Cynaliadwy i Bobl Cymru – ffeithlun

Mae’r ffeithlun hwn yn seiliedig ar ganfyddiadau’r adroddiad Gwneud Gwahaniaeth: Buddsoddi mewn Iechyd a Lles Cynaliadwy i Bobl Cymru‘. Mae’n cyflwyno effeithiau iechyd ochr yn ochr â chostau economaidd, cymdeithasol a gofal iechyd sy’n gysylltiedig â heriau iechyd cyhoeddus allweddol yng Nghymru, yn ogystal ag amlinellu atebion posibl. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn y ffeithlun yn cynnwys: mynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol, lleihau cyfraddau ysmygu, mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, gwella dietau, a lleihau gordewdra, atal trais a chamdriniaeth, hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl, a buddsoddi mewn datblygiad blynyddoedd cynnar.

Darllenwch yr adroddiad llawn sy’n cyd-fynd â’r ffeithlun hwn.

Darllenwch y dystiolaeth ategol sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn.