Gweithdrefn Weithredu Safonol ar gyfer brechu staff gofal iechyd rhag y ffliw
Mae’r Weithdrefn Weithredu Safonol (SOP) hon yn arwain y gwaith o ddarparu brechiadau’r ffliw i staff GIG Cymru gan frechwyr cydweithwyr.
Yr elfen hon o’r rhaglen frechu rhag y ffliw flynyddol ar gyfer Cymru yw cydweithwyr yn rhoi brechiad blynyddol y ffliw i unigolion sy’n gweithio yn GIG Cymru. Mae’r rhaglen ffliw flynyddol yn elfen o’r Fframwaith Imiwneiddio Cenedlaethol ar gyfer Cymru.
Cefndir
Mae’r ffliw yn haint feirol acíwt ar y llwybr anadlol ac mae’n heintus iawn. Nod y rhaglen frechu rhag y ffliw flynyddol yw gwarchod y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Ar hyn o bryd, mae’r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) yn cynghori y dylai staff gofal iechyd sy’n dod i gysylltiad uniongyrchol â chlaf / cleient gael brechiad blynyddol rhag y ffliw. Mae brechiad blynyddol y ffliw wedi cael ei argymell ar gyfer staff gofal iechyd yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Mae holl sefydliadau GIG Cymru yn darparu brechiad blynyddol y ffliw am ddim i’w holl staff. Mae hyn er mwyn gwarchod yr unigolyn rhag dal a / neu ledaenu’r feirws anadlol hwn i gydweithwyr, a hefyd i gleifion / cleientiaid, a gall rhai o’r rhain fod yn agored iawn i’r ffliw a’i gymhlethdodau.
Mae’r broses o roi brechiad blynyddol y ffliw i staff gofal iechyd drwy’r model brechwyr cydweithwyr wedi’i hen sefydlu ar draws GIG Cymru, ac mae adborth wedi nodi y byddai gweithdrefn weithredu safonol (SOP) i gefnogi hyn yn rhywbeth i’w groesawu ac yn ddefnyddiol i sefydliadau.