Gofalu am eich bronnau
Mae’r adnodd yma’n dweud wrthych chi sut mae gofalu am eich bronnau. Mae gofal y fron yn rhan o’r broses o ofalu am y corff cyfan. Mae’n bwysig i chi adnabod ymddangosiad a theimlad arferol eich bronnau fel eich bod chi’n sylwi ar unrhyw newidiadau.
Er ei fod yn anghyffredin, gall dynion gael canser y fron, felly mae’n bwysig i ddynion ofalu am eu bronnau hefyd.
- Dysgu beth sy’n gyffredin i chi
- Gwybod am ba newidiadau i chwilio
- Edrych a theimlo
- Rhoi gwybod yn syth am unrhyw newidiadau i’ch meddyg teulu
- Mynd yn rheolaidd i gael sgrinio’ch bronnau os ydych chi dros 50 oed