Ffurflen hysbysu marwolaeth plentyn
Defnyddir y ffurflen hysbysu marwolaeth plentyn i hysbysu Rhaglen Adolygu Marwolaethau Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru (CDRP) yn ffurfiol am farwolaeth plentyn a oedd fel arfer yn byw yng Nghymru neu a fu farw yng Nghymru. Mae’r ffurflen yn casglu gwybodaeth hanfodol sydd ei hangen i gychwyn y broses adolygu marwolaeth plentyn.