Neidio i'r cynnwys

Effaith y dirywiad economaidd ar iechyd yng Nghymru: Adolygiad ac astudiaeth achos – crynodeb gweithredol

  • Masnach

Nod yr adolygiad hwn oedd casglu’r hyn a ddysgwyd o ymchwil i ddirwasgiadau blaenorol tra’n gosod y canfyddiad yng nghyd-destun Cymru heddiw.

Dylid pwysleisio nad oedd hon yn astudiaeth gynhwysfawr, ond mae’n cynnig man cychwyn lle gall llunwyr polisi, ymarferwyr ac ymchwilwyr ddechrau rhoi ystyriaeth i gamau gweithredu ar gyfer y dyfodol.

Mae’n darparu set o argymhellion ar sail tystiolaeth ar gyfer polisi ac ymarfer sy’n cynnwys awgrymiadau ynghylch pa grwpiau o’r boblogaeth a allai fod yn arbennig o agored i ddirwasgiad; yr angen i gyfuno adnoddau a chyfuno atebion yn enwedig mewn ardaloedd lle mae seilwaith gwasanaethau cymorth yn debygol o fod yn wan; yr angen am raglenni marchnad lafur gweithredol sy’n rhoi cymorth, yn magu hunan-barch ac yn creu rhwydweithiau cymdeithasol/cymunedol cefnogol (yn ogystal â chymorth chwilio am swyddi) ac i’r rhain gynnwys gwerthusiad o’u heffaith ar iechyd; i strategaethau cymorth gael eu datblygu mewn gweithleoedd i gefnogi gweithwyr a allai fod yn bryderus am statws eu swydd; ac ystyried effaith bosibl penderfyniadau gwario yn y dyfodol ar iechyd o ganlyniad i lai o wariant cyhoeddus. Yn ogystal, dylid diogelu gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc sy’n agored i niwed, teuluoedd dan straen a phobl â phroblemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol.