Dosio gwrthficrobaidd mewn oedolion ar eithafion pwysau’r corff Cymru Gyfan
Mae llawer o agweddau ar sut mae corff yn trin cyffur yn newid pan fo gan gleifion sy’n pwyso mwy
haint, lle bydd perygl o fethiant therapiwtig ac ymwrthedd gwrthficrobaidd oherwydd amlygiad annigonol i’r cyffur. I’r gwrthwyneb, mewn cleifion sydd dan bwysau, mae dosio arferol yn cynyddu’r risg o wenwyndra cyffuriau.
Yn anffodus, prin yw’r dystiolaeth gyffredinol o ran dosio mewn cleifion gordew neu dan bwysau. Yn aml, mae’r dos sy’n cael ei argymell yn seiliedig ar adroddiadau achos neu astudiaethau bychain. Dylai pob achos gael ei ystyried ar sail unigol, gan ystyried ffactorau eraill a fydd yn effeithio ar sut y bydd y corff yn trin y cyffur, gan gynnwys gweithred yr arennau.
Sylwch nad yw’r canllawiau hyn yn cynnwys gwybodaeth am ddosio mewn proffylacsis llawfeddygol.