Digwyddiad rhwydweithio CoPGY Tachwedd 2024: Adnoddau
Ar 25 Tachwedd 2024, gwnaethom gynnal ein hail ddigwyddiad rhwydweithio wyneb yn wyneb yng Nghlwb Criced Morgannwg yng Nghaerdydd. Cofrestrodd dros 200 o bobl, ac er gwaethaf yr heriau a gyflwynwyd gan Storm Bert, llwyddodd dros 120 o bobl i gyrraedd y digwyddiad.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gyda’r Athro Robert West a phrif gyflwyniad gan yr Athro Delyth James, diweddariadau ar fentrau arloesol gan gynnwys y Fenter Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad a’r Rhaglen Asiantau Ymddygiad, sesiwn sgwrsio agored a chyfres o weithdai ar wyddor ymddygiad.
Gweler isod yr agenda ynghyd â dolenni i bob cyflwyniad:
Rhaglen Asiantau Newid Ymddygiad (BCA) (Saesneg yn unig)
- Jonathan West, Pennaeth Gwyddor Ymddygiad, Uned Gwyddor Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- James Smolinski, Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad Uned Gwyddor Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Lydia Orford, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr)
- Silke Boak, Rheolwr Mewnwelediad ac Ymchwil (Trafnidiaeth Cymru)
Menter Cyfathrebu sy’n Ystyriol o Ymddygiad (BICI)
- Dr Alice Cline, Prif Wyddonydd Ymddygiad, Uned Gwyddor Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig)
- Astudiaeth achos BICI: Pecyn Imiwneiddio Cyn Ysgol y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy trwy Frechu: Nel Griffith – Nyrs Iechyd y Cyhoedd, Imiwneiddio, Rhaglen Afiechydon Ataliadwy trwy Frechu (VPDP) a thempled taflen sy’n benodol i frechyn, Clare Brown, Arbenigwr/Awdur Gwybodaeth Feddygol, Rhaglen Afiechydon Ataliadwy trwy Frechu, Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig)
- Astudiaeth achos BICI: Sgrinio’r Fron, Sgrinio Serfigol, a Sgrinio Coluddion, Dr Alice Cline, Prif Wyddonydd Ymddygiad, Uned Gwyddor Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig)
- Astudiaeth achos BICI: Hypercolesterolemia Etifeddol, Rachel Lewis, Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd a Nick Gregory, Uwch Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd, Is-adran Gofal Sylfaenol, Iechyd Cyhoeddus Cymru (Saesneg yn unig)
Mabwysiadu Dull sy’n Ystyriol o Ymddygiad i Optimeiddio Defnydd o Feddyginiaethau ac Ymddygiadau sy’n Gysylltiedig â Meddyginiaeth: Manteision a Heriau (Saesneg yn unig) – Yr Athro Delyth H James, Athro Seicoleg Iechyd mewn Ymarfer Fferylliaeth, Adran Seicoleg Gymhwysol, Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Datblygu argymhellion sy’n ystyriol o ymddygiad ar gyfer optimeiddio gofal ac atal canlyniadau gwael o ddiabetes (Saesneg yn unig) – Dr Nicky Knowles (CPsychol), Prif Wyddonydd Ymddygiad a Seicolegydd Iechyd, Uned Gwyddor Ymddygiad, Iechyd Cyhoeddus Cymru