Neidio i'r cynnwys

Dai i fyny polio ymhlith plant dan 5 oed

Yn sgil pryderon am achos o’r feirws polio yn Llundain ac o ystyried y duedd ostwng yn nifer y plant sy’n cael eu brechu yng Nghymru, fel y dangosir gan y ffigurau gwyliadwriaeth diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC), ysgrifennodd y Prif Swyddog Meddygol at bob bwrdd iechyd ar 24 Hydref (Diwrnod Polio’r Byd) gan ofyn iddynt fwrw ymlaen â rhaglen ddal i fyny â’r brechlyn polio ar gyfer plant dan 5 oed, mewn ymgais i gynyddu’r gyfradd ymysg plant heb eu brechu neu sydd wedi cael brechlyn rhannol.

Er mwyn sicrhau cysondeb yn y negeseuon, dyma rai datganiadau a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru / ICC mewn cyfathrebiadau am y rhaglen ddal i fyny, y gallech eu defnyddio yn eich sgyrsiau â rhieni/gwarcheidwaid.