Neidio i'r cynnwys

Cyfarwyddiadau pecyn prawf sgrinio’r coluddyn

Mae’r wybodaeth hon yn egluro sut i gwblhau eich pecyn prawf sgrinio’r coluddyn.

Trawsysgrif – Cyfarwyddiadau pecyn prawf sgrinio’r coluddyn

Cyfarwyddiadau pecyn prawf sgrinio’r coluddion

Mae’r fideo hwn yn dangos beth sydd angen i chi ei wneud i gwblhau eich pecyn prawf sgrinio coluddion.

Cyn i chi ddechrau bydd arnoch angen:

Eich pecyn prawf, beiro, a rhywbeth i ddal eich baw, e.e. hen gynhwysydd glân neu bapur toiled.

Cam 1 – Mae’n bwysig iawn eich bod yn ysgrifennu’r dyddiad pan fyddwch chi’n cymryd y sampl ar y pecyn prawf. Os na wnewch chi hyn efallai na fyddwn yn gallu ei brofi.

Cam 2 – Bydd angen i chi ddal eich baw cyn iddo gyffwrdd â’r dŵr.

Gallwch roi cynhwysydd glân neu bapur toiled yn y toiled i ddal eich baw.

Mae’n bwysig nad yw’ch sampl yn dod i gysylltiad â dŵr y toiled. Ni fyddwn yn gallu ei brofi os fydd hyn yn digwydd.

Cam 3 – Agorwch gaead y tiwb i dynnu’r ffon allan.

Mae hylif y tu mewn i’r tiwb ond nid yw’n gallu dod allan.

Cam 4 – Dipiwch ben y ffon yn eich sampl.

Dim ond y ddwy rhigol fach ar ddiwedd y ffon sydd angen eu llenwi. Dim ond sampl fach iawn sydd ei angen.

Cam 5 – Rhowch y ffon yn ôl yn y tiwb. Caewch y tiwb trwy droi’r caead.

Cam 6 – Cofiwch olchi eich dwylo.

Cam 7 – Postiwch eich pecyn prawf wedi’i gwblhau ar unwaith. Defnyddiwch yr amlen borffor. Mae’r gost wedi’i dalu’n barod, nid oes angen stamp.

Gyda phwy alla i gysylltu os oes gen i gwestiwn?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am sgrinio coluddion, os oes arnoch angen help neu gymorth i ddefnyddio eich pecyn prawf, neu os ydych wedi colli neu ddifetha’ch pecyn prawf, cysylltwch â Sgrinio Coluddion Cymru.

Gallwch gysylltu â ni yn Gymraeg neu Saesneg. Bydd yn cymryd yr un faint o amser i ni eich ateb, pa bynnag iaith rydych chi’n ei ddewis.