Neidio i'r cynnwys

Canlyniad sgrinio eich babi – Cludydd Crymangelloedd

Mae canlyniadau prawf gwaed sgrinio ‘pigo sawdl’ eich babi yn dangos nad oes gan eich babi anhwylder y crymangelloedd.

Fodd bynnag, mae’r canlyniadau’n dangos bod eich babi’n gludydd crymangelloedd. Mae eich babi’n cludo un genyn ar gyfer crymangelloedd ac un genyn ar gyfer haemoglobin arferol. Mae hyn yn cael ei ysgrifennu fel Hb AS.

Haemoglobin yw’r sylwedd yn y gwaed sy’n cludo ocsigen o amgylch y corff.

Mae tua phedwar o fabanod sy’n cael eu geni yng Nghymru bob blwyddyn â chanlyniad sgrinio smotyn gwaed newydd-anedig cludydd crymangelloedd neu haemoglobin anarferol arall.

Mae’r wybodaeth hon yn esbonio beth mae bod yn gludydd genyn crymangelloedd yn ei olygu i’ch babi, i chi a’ch teulu ehangach.

Fideo

Mae Marcella Aronson yn rhannu ei phrofiadau o sut mae SCD wedi effeithio ar ei dau fab, Cleo a Joey. Mae’r fideo yn Saesneg yn unig.