Canlyniad sgrinio eich babi – Amheuir clefyd wrin surop masarn (MSUD)
Mae canlyniad prawf gwaed sgrinio ‘pigo sawdl’ eich babi yn awgrymu y gallai fod ganddo glefyd wrin surop masarn (MSUD). Mae angen profion pellach ar eich babi nawr i weld a oes ganddo MSUD ai peidio.
Mae’r daflen hon yn rhoi rhywfaint o wybodaeth i chi am MSUD ac yn esbonio beth sy’n digwydd nesaf.