Neidio i'r cynnwys

Canllaw UGY: Gwella iechyd a llesiant

Canllaw i ddefnyddio gwyddor ymddygiad mewn polisi ac ymarfer.

Nod y ddogfen hon yw rhoi canllawiau i lunwyr polisi ac ymarferwyr ym maes iechyd y cyhoedd, gofal iechyd a gwasanaethau cyhoeddus ehangach Cymru ar ddefnyddio gwyddor ymddygiad i’w helpu i gyrraedd eu hamcanion. Mae’r canllaw yn canolbwyntio ar ymddygiadau mewn ystod o feysydd polisi sy’n dylanwadu’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ar iechyd a llesiant dynol, gan gynnwys defnyddio sylweddau, deiet, ymarfer corff, atal anafiadau, ymddygiadau sy’n effeithio ar gynaliadwyedd amgylcheddol, ac ymddygiadau gwrthgymdeithasol ac ymddygiadau cymdeithasol fuddiol.