Neidio i'r cynnwys

Canllaw colistin dos uchel Cymru gyfan

Mae’r gwrthfiotig polymyxin Colistimethate Sodiwm (CMS) wedi’i nodi ar gyfer trin heintiau a achosir gan facteria Gram-negyddol dethol sy’n gwrthsefyll llawer o wrthfiotigau (er enghraifft: Pseudomonas, Acinetobacter ac Enterobacterales sy’n gwrthsefyll yn helaeth) mewn cleifion â chyfyngiadau o ran pa opsiynau triniaeth sydd ar gael iddyn nhw. Yn aml, caiff ei ddefnyddio mewn cyfuniad â gwrthfiotig arall.

Mae CMS yn pro-gyffur anweithredol sy’n cael ei drawsnewid i’r cyffur gweithredol Colistin ar ôl cael ei roi yn y wythïen. Mae’n wrthfiotig cyfyngedig a dim ond ar ôl trafod â’r adran Microbioleg y gellir ei roi ar bresgripsiwn.

Sylwer: Defnyddir Colistin wedi’i nebwleiddio i reoli cyflyrau anadlol cronig hefyd, ac mae defnydd o’r fath y tu hwnt i gwmpas y canllawiau hyn. Darllenwch ganllawiau triniaeth lleol am ragor o wybodaeth.