Neidio i'r cynnwys

Cael eich brechu rhag yr eryr

Mae’r eryr yn haint sy’n aml yn achosi poen difrifol. Gall symptomau bara am fisoedd neu hyd yn oed flynyddoedd.

Mae eryr yn fwy cyffredin ac yn fwy difrifol po hynaf ydych chi. Os oes gennych system imiwnedd wan iawn (oherwydd cyflwr iechyd neu driniaeth feddygol), rydych hefyd mewn mwy o berygl o gael yr eryr.

Gall y brechlyn rhag yr eryr helpu i’ch amddiffyn rhag yr eryr a’r boen hirdymor a all ddilyn.

Mae brechlyn am ddim i helpu i’ch amddiffyn rhag yr eryr os ydych chi:

  • yn 65 oed
  • rhwng 70 a 79 oed, neu
  • dros 18 oed gyda system imiwnedd wan iawn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech mwy o wybodaeth, gallwch ymweld â wefan GIG 111 Cymru (safle allanol), siaradwch â’ch meddyg neu nyrs neu cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.

Cael eich brechu rhag yr eryr – Fideo BSL