Neidio i'r cynnwys

Beth yw sgrinio?

Mae’r fideo hwn yn esbonio beth yw sgrinio. Mae’n egluro sut mae sgrinio’n chwilio am arwyddion cynnar o gyflwr iechyd, sut mae pobl gymwys yn cael eu gwahodd, a’r gwahanol brofion sydd ar gael yng Nghymru.

Trawsysgrif

Felly, mae’n debyg eich bod chi wedi clywed am sgrinio?

…ond beth yn union yw ef?

Mae prawf sgrinio yn chwilio am arwyddion cynnar o gyflwr iechyd o ganser y coluddyn i glefyd y llygaid diabetig.

Mae’r GIG yng Nghymru yn cynnig sgrinio iechyd am ddim i filoedd o bobl bob blwyddyn.

Rhoddir y profion hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd o pelydrau-X y fron, sgrinio serfigol – a elwir hefyd yn brofion ceg y groth, sganiau uwchsain, i ffotograffau a dynnwyd o gefn y llygad ar gyfer pobl â diabetes.

Gall hyd yn oed babanod newydd-anedug gael prawf gwaed syml drwy bigiad sydyn yn y sawdl a all wirio am nifer o gyflyrau prin, ond difrifol.

Mae sgrinio fel rhoi grŵp mawr o bobl drwy ogr.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn pasio drwodd yn syth, ond mae nifer fach yn cael eu dal.

Mae’r rhai sy’n cael eu dal yn cael gwybod bod ganddyn nhw fwy o siawns o gael y cyflwr maen nhw wedi eu sgrinio amdano.

Os chi yw hyn, byddwch yn cael cynnig profion, cyngor a chymorth pellach.

Po gynharaf y bydd cyflwr yn cael ei ddarganfod a’i drin, y gorau yw eich siawns o aros yn iach.

Nid yw sgrinio yn 100% cywir. Weithiau gall problemau gael eu methu, ac ar adegau eraill dywedir wrth bobl eu bod yn wynebu risg uwch pan nad ydynt.

Ond gall ein helpu i aros yn iach a gwneud penderfyniadau gwybodus am ein iechyd.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru ac wedi cofrestru gyda meddyg, cewch wahoddiad i gael eich sgrinio yn awtomatig.

Cofiwch, ar gyfer pobl sy’n temlo’n dda y mae sgrinio. Os oes gennych chi unrhyw symptomau, neu os ydych chi’n peni am rywbeth, peidiwch ag aros i gael eich sgrinio. Gwnewch apwyntiad gyda’ch meddyg.

Gallai cymryd rhan mewn sgrinio fod y dewis gorau a wnewch.

Cewch yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi. Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.