Neidio i'r cynnwys

Awgrymiadau ar sut i atal dadhydradu

Gall dadhydradiad mewn tywydd cynnes arwain at gynnydd sylweddol yn nifer yr achosion o haint y llwybr wrinol (UTI) a heintiau difrifol eraill sy’n gysylltiedig.

Dyma rai ffeithiau allweddol i’ch helpu i atal eich cleifion rhag dadhydradu:

  1. Cam 1:Dal ati i yfed

      • Mae hyn yn cyfateb i o leiaf 8 cwpan fawr o hylif

      • Mae oedolion angen o leiaf 1.5 litr o hylif bob diwrnod

      • Mae hyn yn cyfateb i o leiaf 8 cwpan fawr o hylif
  2. Cam 2:Mae unrhyw hylif yn cyfrif

    • Y peth pwysicaf yw yfed digon o hylifau. Does dim ots beth yw’r hylif. Mae llawer o bobl yn ffafrio coffi a te, a does dim tystiolaeth eu bod yn cael effaith dadhydradu sylweddol
    • Gall bwydydd sy’n llawn hylif, e.e. jeli, hufen iâ ac iogwrt, ychwanegu at yr hylifau sydd mewn diodydd hefyd
  3. Cam 3:Gwyliwch am arwyddion o ddadhydradiad

    • Gall croen sych neu geg sych, wrin lliw tywyll, cur pen, dryswch a bod yn gysglyd i gyd fod yn arwyddion o ddadhydradiad
  4. Cam 4:Mae pobl hŷn a phlant ifanc yn fwy tebygol o ddadhydru

      • Gwnewch yn siŵr bod gan bawb gwpan y mae’n nhw’n gallu ei defnyddio’n ddidrafferth. Gall cwpanau sy’n drwm neu sydd â dolenni bach fod yn anodd iawn i’w dal

      • Efallai y bydd rhai pobl angen help i ddal cwpan ac i yfed. Peidiwch â rhoi gwelltyn i’r rhai sy’n cael trafferth llyncu, mae mwy o berygl iddyn nhw dagu

      • Anogwch y rhai hynny sy’n poeni am anymataliaeth i beidio â rhoi’r gorau i yfed os ydyn nhw’n poeni am wlychu. Gall wrin cryf o ganlyniad i beidio ag yfed achosi llid yn y bledren a chynyddu’r risg o haint