Neidio i'r cynnwys

Asesiad o’r effaith ar lesiant meddyliol: Pecyn cymorth ar gyfer llesiant

Mae’r pecyn cymorth MWIA hwn ar gyfer llesiant yn darparu fframwaith sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gwella llesiant drwy brosesau comisiynu, cynllunio a darparu prosiectau a gwasanaethau, ymgysylltu â’r gymuned ac asesu effaith. Mae’n galluogi pobl a sefydliadau i asesu a gwella polisi, rhaglen, gwasanaeth neu brosiect i sicrhau ei fod yn cael yr effaith fwyaf teg ar lesiant meddyliol pobl, ac i nodi ffyrdd o fesur yr effeithiau hynny.