Amserlen babanod ar gyfer y brechlyn niwmococol yn newid
Ar gyfer babanod a gaiff eu geni o 1 Ionawr 2020 ymlaen, mae’r amserlen frechu ar gyfer y brechiad niwmococol (PCV) yn newid.
Yn hytrach na thri phigiad yn ystod yr apwyntiad 8 ac 16 wythnos oed (ac un yn 12 wythnos oed), dim ond dau bigiad fydd babanod yn ei gael yn awr yn y ddau apwyntiad yma, yn ogystal â’r rotafirws drwy’r geg yn 8 a 12 wythnos oed. Bydd pob babi sy’n cael ei eni ar 1 Ionawr 2020 neu ar ôl hynny’n cael ei ddos cyntaf o’r brechiad niwmococol gyda’i frechiadau babanod eraill pan fydd yn 12 wythnos oed a dos atgyfnerthu o’r brechiad hwn yn 12-13 mis.