Alffa thalasaemia posibl
Mae’r wybodaeth hon ar eich cyfer chi os ydych chi’n feichiog ac wedi cael prawf gwaed sy’n dangos y gallech chi fod yn gludydd thalasaemia alffa (a elwir hefyd yn gludydd thalasaemia alffa posibl).
Gan na all eich prawf sgrinio gadarnhau a ydych chi’n gludydd thalasaemia alffa, rydym wedi ysgrifennu’r wybodaeth yn y daflen hon fel pe baech chi’n gludydd thalasaemia alffa ac i’ch helpu i ddeall a fydd angen cymryd camau pellach yn ystod eich beichiogrwydd.