Adborth sgrinio coluddion
Mae rhannu eich barn am y gwasanaeth a ddarparwn yn bwysig. Mae’n ein helpu i wella’r ffordd yr ydym yn darparu sgrinio’r coluddyn yng Nghymru.
Gallwch ddweud wrthym beth yw eich barn am y gwasanaeth a ddarparwn yma:
Rwyf wedi cwblhau fy mhecyn prawf sgrinio’r coluddyn ac nid oes angen profion pellach arnaf
Cwblhewch yr arolwg hwn os ydych wedi cwblhau eich pecyn prawf sgrinio’r coluddyn ac wedi cael canlyniad i ddweud nad oes angen rhagor o brofion arnoch ar hyn o bryd.
Rwyf wedi cwblhau fy mhecyn prawf sgrinio’r coluddyn ac mae gwaed wedi’i ganfod yn fy mhŵ
Cwblhewch yr arolwg hwn os ydych wedi cwblhau pecyn prawf sgrinio’r coluddyn ac wedi cael canlyniad i ddweud bod gwaed wedi’i ganfod yn eich pŵ a’ch bod wedi siarad â nyrs sgrinio.
Rwyf wedi mynychu profion pellach e.e. colonosgopi
Cwblhewch yr arolwg hwn os ydych wedi cymryd rhan mewn sgrinio’r coluddyn ac wedi mynychu profion pellach, er enghraifft colonosgopi.
Mae angen cymorth arnaf i adael fy adborth
Cysylltwch â ni yn uniongyrchol os oes angen cymorth arnoch i adael eich adborth. Gallwch wneud hyn dros y ffôn, drwy e-bost neu’n ysgrifenedig.