Adborth a chwynion

Mae ansawdd yn llywio popeth a wnawn ac er mwyn i ni barhau i wella, hoffem wybod am eich profiad diweddar o ddefnyddio ein gwasanaethau.

Mae gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei feddwl, yn ei deimlo ac yn ei brofi trwy gydol eu rhyngweithio â ni yn bwysig iawn. Mae’n ein helpu i wybod beth rydym yn ei wneud yn dda a lle mae angen i ni wneud gwelliannau.

Rydym am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl rannu eu profiadau a’u hadborth gyda ni ac mae nifer o ffyrdd y gallwch wneud hyn.

Rhoi canmoliaeth

Mae ein staff bob amser yn hapus i dderbyn canmoliaeth neu negeseuon o ddiolch pan fydd pethau wedi mynd yn dda. Mae hyn yn ddefnyddiol gan ei bod yn bwysig i ni ddysgu o’r hyn sydd wedi mynd yn dda, a byddwn bob amser yn ceisio trosglwyddo’ch negeseuon i’r tîm neu’r aelod o staff dan sylw. 

Rhoi canmoliaeth – i ddiolch.

Rhoi adborth am wasanaeth

Mae rhoi adborth yn wahanol i wneud cwyn. I wneud cwyn. Dweud wrthym am eich profiad o ddefnyddio unrhyw un o’r gwasanaethau a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru – gall fod yn dda neu’n ddrwg.

Rhoi adborth am wasanaeth.

Adborth ar ein gwasanaethau Cymraeg

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sefydliad dwyieithog ac ein nod yw cynnig y gwasanaeth gorau posibl yn y Gymraeg a’r Saesneg. Dim ond trwy wella’n barhaus a dysgu o’ch profiadau a’ch adborth y gallwn wneud hyn.

Gadael adborth i ni ar ein darpariaeth Gymraeg.

Lleisio cwyn neu godi pryder

Yn anffodus, mae yna adegau pan na fydd pethau’n mynd yn ôl y bwriad.  Mae lleisio eich pryder neu gŵyn yn ein galluogi i ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd, i ddysgu o’ch profiadau a gwella’r gwasanaethau a gynigiwn yma yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn neu godi pryder.