Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Datblygu dull iechyd y cyhoedd o gefnogi rhieni

Mae’r adroddiad hwn yn disgrifio sut mae dull iechyd y cyhoedd o gefnogi rhieni yn darparu llwybr i wella canlyniadau yn y 1000 diwrnod cyntaf ac ar draws cwrs bywyd. Mae’n cyflwyno’r dystiolaeth, y mewnwelediadau a’r dulliau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu tri allbwn: fframwaith damcaniaethol, model iechyd y cyhoedd o gymorth rhianta a fframwaith ar gyfer gweithredu.

Mae’r model, sy’n canolbwyntio ar anghenion craidd babanod a phlant ifanc, yn esbonio’r rôl hollbwysig y mae rhianta yn ei chwarae, yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth, wrth roi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant yng Nghymru. Mae’r model yn rhoi pwyslais arbennig ar y rôl sylweddol y mae ffactorau seicogymdeithasol a strwythurol yn ei chwarae wrth greu amgylchedd sy’n galluogi ac sy’n cefnogi rhieni i ffynnu yn eu rôl o fagu plant.

Daw’r papur i ben drwy gyflwyno goblygiadau i bolisi ac arfer yng Nghymru o ganlyniad i ddatblygu’r modelau.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Datblygu dull iechydy cyhoedd o gefnogi rhieni - Adroddiad technegol

PDF, 3MB

Llawrlwytho PDF - Datblygu dull iechydy cyhoedd o gefnogi rhieni - Adroddiad technegol (3 MB)

Llawrlwytho PDF