Cymuned trwy ddylunio
Mae’r papur hwn yn disgrifio dull cynllunio, drwy feddwl systemau cwbl integredig, i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol ac yn ddiogel yn y gymuned. Mae’n ystyried pa addasiadau system sydd eu hangen, ar lefel partneriaethau lleol a chenedlaethol, i ysgogi’r egwyddor o ‘gymuned yn gyntaf’ neu ‘gymuned drwy ddyluniad’. Mae’r dull hwn yn mabwysiadu ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn seiliedig ar werth wrth ddarparu gofal a chymorth, gan fod yn glir y dylid cyfeirio pob adnodd ar hyd llwybr iechyd tuag at sicrhau’r canlyniadau a’r profiad gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth.