Brechlynnau sy'n cynnwys y frech goch, clwy'r pennau, rwbela a brech yr ieir (MMRV ac MMR) - Yn ystod ac ar ôl eich apwyntiad brechlynnau MMRV ac MMR
Bydd eich meddyg teulu neu nyrs yn esbonio am y brechiad ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Fel arfer, rhoddir y brechlyn fel pigiad i glun plant ifanc neu fraich uchaf plant hŷn ac oedolion.
Ysgrifennwch unrhyw gwestiynau sydd gennych a gofynnwch nhw i’r gweithiwr iechyd proffesiynol yn yr apwyntiad brechu.
Dylech ganslo apwyntiad ymlaen llaw os na allwch chi ddod. Os byddwch yn colli’r apwyntiad neu’n gorfod gohirio’r brechiad, gwnewch apwyntiad newydd cyn gynted â phosibl.
Os ydych chi neu’ch plentyn wedi methu unrhyw frechiadau sy’n cynnwys MMR, mae’n bwysig dal i fyny cyn gynted â phosibl. Mynnwch air â’ch meddyg teulu neu’ch nyrs practis.
Beth ddylwn i ei wneud os bydda i neu fy mhlentyn yn teimlo’n sâl ar ôl y brechiad?
Os oes gennych chi neu’ch plentyn dwymyn ac rydych yn teimlo’n sâl ar ôl y brechiad, gallwch gymryd paracetamol. Dylech chi wneud y canlynol:
- darllen y cyfarwyddiadau yn ofalus, a
- chymryd y dos cywir ar gyfer eich oedran chi neu oedran eich plentyn.
Nid ydym yn argymell cymryd paracetamol cyn y brechiad i atal twymyn.
Cofiwch – ni ddylai plant o dan 16 oed gymryd meddyginiaethau sy’n cynnwys asbrin.
Cofiwch – ni ddylai plant o dan 16 oed gymryd meddyginiaethau sy’n cynnwys asbrin.
Os oes gennych unrhyw bryderon amdanoch chi’ch hun neu’ch plentyn ar ôl y brechiad, cysylltwch â’ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu, neu nyrs practis i gael cyngor a chymorth.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 20fed Ionawr 2026