Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2015–16

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 26ain Gorffennaf 2017

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu cronfa ddata Cymru gyfan i gefnogi’r broses o frechu babanod sy’n cael eu geni i famau sydd â haint hepatitis B.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r niferoedd sy’n cymryd y tri dos cyntaf o imiwneiddiad hepatitis B a pha mor brydlon y rhoddwyd hwy, yn ogystal â’r tueddiadau o ran fabanod a anwyd i famau hepatitis B positif yn ystod 2016, yn ôl yr hyn a hysbyswyd i Dîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae niferoedd y babanod a anwyd i famau hepatitis B positif a gymerodd y bedwaredd dos imiwneiddio hepatitis B yn 2015 wedi’i gyflwyno hefyd.

Cefndir

Mae’r data yn yr adroddiad hwn wedi’i gymryd o gronfa ddata Imiwneiddiad Hepatitis B Babanod Newyddenedigol Cymru Gyfan. Datblygwyd y gronfa ddata i gynorthwyo Tîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro ac i ddilyn cyfraddau imiwneiddio hepatitis B mewn babanod a anwyd i famau hepatitis B positif. Mae’r gronfa ddata hefyd yn caniatáu i Iechyd Cyhoeddus Cymru fonitro brechiadau hepatitis B mewn babanod newyddenedigol a phlant ifanc a anwyd i famau heintiedig. Casglwyd data’r adroddiad hwn ar 26 Gorffennaf 2017.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2015–16 (Saesneg yn unig)

PDF, 505KB

Llawrlwytho PDF - Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2015–16 (Saesneg yn unig) (505 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig