Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2011–12

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 17eg Chwefror 2014

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datblygu cronfa ddata Cymru gyfan i gefnogi’r broses o frechu babanod sy’n cael eu geni i famau sydd â haint hepatitis B.

Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb o’r niferoedd ac amseroldeb dewis rhoi’r tri dos cyntaf o imiwneiddiad hepatitis B, yn ogystal â’r tueddiadau o ran dewis rhoi brechiad i fabanod a anwyd i famau hepatitis B positif yn ystod 2012, yn ôl yr hyn a hysbyswyd i Dîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae niferoedd ac amseroldeb y rhai sy’n cymryd y dos imiwneiddio hepatitis B ar 12 mis, a seroleg mewn babanod a anwyd i famau hepatitis B positif yn 2011 yn cael ei gyflwyno hefyd.

Cefndir

Datblygwyd y gronfa ddata gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynorthwyo Tîm Diogelu Iechyd Cyhoeddus Cymru i fonitro ac i ddilyn cyfraddau imiwneiddio hepatitis B mewn babanod a anwyd i famau hepatitis B positif. Mae’r gronfa ddata hefyd yn caniatáu i Ganolfan Arsylwi ar Glefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru fonitro brechiadau hepatitis B mewn babanod newyddenedigol a phlant ifanc a anwyd i famau sydd wedi’u heintio. Casglwyd data’r adroddiad hwn ar 17 Chwefror 2014.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2011–12 (Saesneg yn unig)

PDF, 141KB

Llawrlwytho PDF - Crynodeb cenedlaethol o imiwneiddio rhag hepatitis B newyddenedigol yng Nghymru 2011–12 (Saesneg yn unig) (141 KB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig