Neidio i'r cynnwys

Brechlyn cyfun niwmococol (PCV) - Am y brechlyn cyfun niwmococol (PCV)

Y brechlyn cyfun niwmococol (a elwir yn PCV) sy’n cael ei roi i blant fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio arferol. Fe’i rhoddir hefyd i rai pobl sydd mewn perygl oherwydd bod ganddynt gyflyrau meddygol sylfaenol. Mae brechu yn rhoi amddiffyniad da rhag haint niwmococol.

Nid yw’r brechlyn yn amddiffyn rhag pob math o haint niwmococol ac nid yw’n amddiffyn rhag llid yr ymennydd a achosir gan facteria neu feirysau eraill.

Rhoddir PCV 13 (Prevenar 13) i fabanod yng Nghymru fel rhan o raglen imiwneiddio arferol y GIG, ac i rai pobl sydd â chyflyrau meddygol sylfaenol.

Mae’r brechlyn wedi’i anactifadu (nid yw’n cynnwys germau byw). Fel arfer, bydd babanod yn cael y brechlyn fel pigiad yn rhan uchaf eu coesau (clun) neu ran uchaf eu breichiau. Fel arfer, bydd plant hŷn ac oedolion yn ei gael yn rhan uchaf eu breichiau.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn hwn drwy ddarllen y daflen gwybodaeth i gleifion yn:

Os yw’ch plentyn wedi methu unrhyw ddosau siaradwch â’ch meddyg teulu neu nyrs y feddygfa am gyngor. I gael rhagor o wybodaeth am niwmonia, llid yr ymennydd a sepsis ewch i wefan GIG 111 Cymru:

Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn

Mae dau fath gwahanol o frechlyn niwmococol.

Brechlyn cyfun niwmococol (PCV)

Cynigir y brechlyn PCV i bob plentyn dan ddwy flwydd oed fel rhan o raglen imiwneiddio rheolaidd i blant y GIG. Efallai y bydd angen y brechlyn hwn ar rai pobl â chyflyrau meddygol sylfaenol hefyd. Mae’r dudalen hon yn ymdrin â’r brechlyn PCV.

Cynigir brechiadau PCV rheolaidd i fabanod sy’n:

  • 16 wythnos oed (gweler isod), fel rhan o’r rhaglen imiwneiddio i blant, a
  • blwydd oed, ar neu ar ôl eu pen-blwydd cyntaf.

Am ragor o wybodaeth ynghylch pryd y cynigir y dos cyntaf (16 wythnos), ewch i newidiadau i’r amserlen imiwneiddio i blant. (I’w diweddaru)

Brechiadau i’r rhai sydd mewn perygl

Mae rhai cyflyrau meddygol yn cynyddu’r risg o gael heintiau difrifol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • heb fod â dueg
  • bod â dueg nad yw’n gweithio’n dda iawn (sy’n cynnwys o ganlyniad i fod â chlefyd y crymangelloedd a chlefyd seliag)
  • problemau gyda’ch system imiwnedd (anhwylderau ategol), a
  • system imiwnedd wan iawn.

Gellir cynnig brechiadau i bobl â chyflyrau penodol yn dibynnu ar yr oedran y cânt eu diagnosio, eu cyflwr meddygol a brechiadau blaenorol.

Os oes gennych gwestiynau neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y brechlyn PCV, siaradwch â’ch meddyg teulu, nyrs eich practis meddyg teulu, ymwelydd iechyd neu’ch nyrs ysgol.

Brechlyn polysacarid niwmococol (PPV)

Cynigir y brechlyn PPV i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl sy’n wynebu risg uchel oherwydd cyflyrau iechyd hirdymor. Mae gwybodaeth am y brechlyn PPV ar gael ar dudalen brechlyn polysacarid niwmococol (PPV) (23 seroteipiau).

Diogelwch ac effeithiolrwydd

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal heintiau difrifol ar yr ysgyfaint (niwmonia), llid yr ymennydd a gwenwyn gwaed (septisemia) a achosir gan haint niwmococol. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau niwmonia, llid yr ymennydd a sepsis, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.

Sgîl-effeithiau’r brechlyn

Fel y rhan fwyaf o frechlynnau, gall y brechlyn niwmococol achosi sgil-effeithiau ysgafn weithiau, gan gynnwys:

  • twymyn ysgafn
  • cochni yn safle’r pigiad, a
  • chaledwch neu chwydd yn safle’r pigiad.

Mae adweithiau eraill yn anghyffredin neu’n brin. Am ragor o wybodaeth am y sgil-effeithiau hyn, gweler:

Os ydych chi’n pryderu am symptomau, cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.

Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Gwybodaeth i’r cyhoedd

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 11eg Awst 2025