Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2023/24
Awduron: Rhaglen Clefydau y gellir eu hatal drwy Frechu, Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy (CDSC)
- Blynyddol
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Cefndir
Ar hyn o bryd mae’r brechiad polysacarid niwmococol (PPV) yn cael ei gynnig i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl rhwng dwy a 64 oed mewn grwpiau risg clinigol dethol. Mae PPV yn amddiffyn rhag 23 seroteip o Streptococcus pneumoniae a all achosi niwmonia neu heintiau ymledol difrifol.
Caiff data eu cyflwyno gan Awdurdod Lleol/Bwrdd Iechyd y Meddyg Teulu, ac maent yn seiliedig ar yr holl bractisau cyffredinol yng Nghymru. Mae pob oedran a nodir yr adroddiad hwn fel yr oeddent ym mis Mawrth 2024.
Cafodd data o un practis ei eithrio o’r adroddiad hwn oherwydd ansawdd y data.
Pwyntiau allweddol
- Roedd cyfradd y bobl rhwng 2 a 64 oed mewn grŵp risg clinigol a gymerodd frechlyn niwmococol yn 37.4% yn ystod 2023/24. Roedd y defnydd yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd, o 31.1% ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i 46.8% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
- Roedd cyfradd y bobl rhwng 65 oed a hŷn a gymerodd frechlyn niwmococol yn 65.0%. Roedd y defnydd yn amrywio o 59.8% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i 70.5% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
- I’r rhai 65 oed a hŷn, roedd y gyfradd yn cynyddu gydag oedran (ac amser ers dod yn gymwys i gael brechiad). Roedd cyfradd y rhai a oedd yn troi’n 65 oed yn 31.1%, tra bo cyfradd y rhai 75 neu hŷn yn 76%.
- Roedd y gyfradd ymhlith cleifion rhwng 2 a 64 oed mewn grŵp risg clinigol ar ei uchaf mewn cleifion â mewnblaniad cochlear (73.6%), yna cleifion â chlefyd anadlol cronig (49.4%). Roedd y gyfradd ar ei hisaf ymhlith cleifion â chlefyd cronig y galon (29.8%).
- Mae amrywiadau nodedig yn y defnydd rhwng byrddau iechyd ac o fewn byrddau iechyd, yn enwedig yn y rhai o dan 65 oed mewn grwpiau risg clinigol.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2023-24 (Saesneg yn unig)
PDF, 556KB
Llawrlwytho PDF - Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2023-24 (Saesneg yn unig) (556 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2022/23
Cefndir Ar hyn o bryd mae’r brechiad polysacarid niwmococol (PPV) yn cael ei gynnig i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl rhwng dwy a 64 oed mewn grwpiau […]
Cyhoeddwyd: 31ain Mawrth 2023
-
Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2019/20
Cefndir Ar hyn o bryd mae’r brechiad polysacarid niwmococol (PPV) yn cael ei gynnig i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl rhwng dwy a 64 oed mewn grwpiau […]
Cyhoeddwyd: 31ain Mawrth 2020
-
Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2020/21
Cefndir Ar hyn o bryd mae’r brechiad polysacarid niwmococol (PPV) yn cael ei gynnig i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl rhwng dwy a 64 oed mewn grwpiau risg […]
Cyhoeddwyd: 31ain Mawrth 2021