Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2019/20

Manylion:

Awduron: Rhaglen Clefydau y gellir eu hatal drwy Frechu, Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy (CDSC)

Cyhoeddwyd ar: 31ain Mawrth 2020

  • Blynyddol
  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Cefndir

Ar hyn o bryd mae’r brechiad polysacarid niwmococol (PPV) yn cael ei gynnig i bobl 65 oed a hŷn ac i bobl rhwng dwy a 64 oed mewn grwpiau risg clinigol dethol. Mae PPV yn amddiffyn rhag 23 seroteip o Streptococcus pneumoniae a all achosi niwmonia neu heintiau ymledol difrifol.

Paratowyd yr adroddiad gan Raglen Clefydau y gellir eu hatal trwy Frechu Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Ganolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy. Daw data’r adroddiad hwn o Audit+ ar 31 Mawrth 2020, ac fe’u darparwyd gan Dîm Gofal Sylfaenol NWIS. Caiff data eu cyflwyno gan Awdurdod Lleol/Bwrdd Iechyd y Meddyg Teulu, ac maent yn seiliedig ar yr holl bractisau cyffredinol yng Nghymru. Mae pob oedran a nodir yr adroddiad hwn fel yr oeddent ar 31 Mawrth 2020.

Pwyntiau allweddol

  • Roedd cyfradd y bobl rhwng 2 a 64 oed mewn grŵp risg clinigol a gymerodd frechlyn niwmococol yn 32.8% yn ystod 2019/20. Roedd y defnydd yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd, o 41.5% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i 25.6% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
  • Roedd cyfradd y bobl 65 oed a throsodd a gymrodd y brechlyn yn 60.2%.
  • Roedd y gyfradd yn amrywio yn ôl bwrdd iechyd, o 64.3% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i 55.5% ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Mae’r gyfradd yn cynyddu’n raddol o 65 oed (25.2%) i 74 (65.0%) oed. Roedd cyfradd y rhai 75 oed a hŷn a gymrodd frechlyn yn 73.7%.
  • Roedd y gyfradd ymhlith cleifion rhwng 2 a 64 oed mewn grŵp risg clinigol ar ei uchaf mewn cleifion â mewnblaniad cochlear (72.0%, n=149/207) a chleifion â chlefyd anadlol cronig (41.5%, n=13649/32881). Roedd y gyfradd ar ei hisaf ymhlith cleifion â gollyngiad hylif serebrosbinol (22.9%, n = 274/1197).
  • Mae amrywiadau nodedig rhwng byrddau iechyd ac o fewn byrddau iechyd yn y nifer sy’n cymryd y brechiad, yn enwedig yn y rhai o dan 65 oed mewn grwpiau risg clinigol

Lawrlwythiadau adroddiadau

Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2019-20 (Saesneg yn unig)

PDF, 1MB

Llawrlwytho PDF - Niferoedd a gymerodd y brechlyn PPV yng Nghymru 2019-20 (Saesneg yn unig) (1 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig