Brechlyn ffliw - Canllawiau brechlyn ffliw ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal
Mae’r rhan fwyaf o’r brechlynnau ffliw sydd ar gael yn y DU yn anweithredol ac eithrio’r brechlyn ffliw byw wedi’i wanhau (LAIV) – dyma’r brechlyn sy’n cael ei roi i’r rhan fwyaf o blant cymwys. Yr enw brand ar gyfer y LAIV sydd ar gael yn y DU yw Fluenz®. Mae LAIV yn cynnwys feirysau byw sydd wedi’u gwanhau a’u haddasu’n oer fel mai dim ond yn nhymheredd is y llwybrau trwynol y gallant atgynhyrchu.
Oherwydd natur gyfnewidiol feirysau’r ffliw, a newidiadau yn y straen sy’n cylchredeg ac yn achosi afiechyd, mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn monitro epidemioleg feirysau’r ffliw ledled y byd ac yn gwneud argymhellion blynyddol ynghylch pa straen y dylid ei chynnwys ar gyfer y gaeaf sydd i ddod.
Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) wedi cyhoeddi cyfansoddiad a argymhellir ar gyfer brechlynnau feirws ffliw i’w defnyddio yn nhymor ffliw hemisffer y gogledd 2024-2025 (safle allanol) yn hemisffer y gogledd.
Crynodeb o’r nodweddion cynnyrch
Mae nifer o frechlynnau ffliw anweithredol ar gael. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am bob brechlyn yn y crynodeb o nodweddion cynnyrch (SmPC) sydd ar gael yn y ddolen isod drwy roi enw’r brechlyn:
- Hafan - electronic medicines compendium (emc) (safle allanol).
- Fluenz Trivalent nasal spray suspension Influenza vaccine (live attenuated, nasal) – SmPC (emc) (safle allanol, Saesneg yn unig).
Brechlynnau sy’n cael eu argymell
Arweiniad
Mae argymhellion y rhaglen frechu gan y Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a pholisi Llywodraeth Cymru i’w gweld yn y dolenni isod.
Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu ar wefan llywodraeth DU (safle allanol) - darllenwch gyhoeddiadau a datganiadau JCVI; chwiliwch e.e. influenza.
Cylchlythyrau Iechyd Cymru a llythyrau Llywodraeth Cymru
- Brechlynnau ffliw a charfannau cymwys ar gyfer tymor 2025 i 2026 (WHC/2023/047) | LLYW.CYMRU (safle allanol).
- Y rhaglen frechu yn erbyn ffliw genedlaethol 2025 i 2026 (WHC/2024/028) | LLYW.CYMRU (safle allanol).
Adnoddau hyfforddi
Modiwlau e-Ddysgu am y ffliw
- Mae gan y modiwl e-ddysgu FluTwo enw newydd. Mewn ymateb i adborth gan ddefnyddwyr, gelwir y modiwl hwn bellach yn Diweddariad Clinigol ar y Ffliw ar gyfer Cymru. Mae’r modiwl e-Ddysgu hwn yn addas ar gyfer pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, gan gynnwys gweithwyr cymorth gofal iechyd sy’n imiwneiddio rhag y ffliw neu’n rhoi cyngor ar y pwnc. Dyma’r diweddariad clinigol ar gyfer Cymru ac mae wedi’i ddiweddaru ar gyfer tymor ffliw 2024-25. Mae’r modiwl hwn ar gael ar ESR ac ar y platfform Dysgu@Cymru.
- Mae gan y modiwl e-Ddysgu FluOne enw newydd a gwedd newydd hefyd! Enw’r modiwl bellach yw Gwybodaeth am y brechlyn ffliw ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Os ydych yn gweithio yn GIG Cymru, yn weithiwr iechyd nad yw’n gweithio i’r GIG, yn gweithio mewn cartref gofal, gofal cymdeithasol neu yn y sector gwirfoddol, bydd y modiwl hwn yn rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch am y ffliw, a pham ei fod mor fuddiol i chi ac y rhai yr ydych yn gofalu amdanynt i gael y brechlyn ffliw. Mae’r modiwl hwn yn cael ei ddiweddaru ar hyn o bryd a bydd ar gael ar y Cofnod Staff Electronig ac ar blatfform Dysgu@Cymru yn fuan.
Bydd rhagor o wybodaeth am y modiwlau hyn a sut i gael mynediad atynt ar dudalen e-Ddysgu Imiwneiddio.
Adnoddau a gwybodaeth glinigol
- Rhaglen brechu rhag y ffliw: gwybodaeth i ymarferwyr gofal iechyd ar wefan llywodraeth DU (safle allanol).
- Y ffliw ar y llyfr gwyrdd, pennod 19 ar wefan llywodraeth DU (safle allanol).
Cofiwch fod gwybodaeth am gymhwystra i gael brechlyn yng Nghymru a Lloegr yn wahanol.
Cyfarwyddiadau grŵp cleifion (PGDs) a phrotocolau
Mae templedi Cyfarwyddiadau Grŵp Cleifion (PGD) ar gyfer y brechlyn ffliw ar gael ar dudalen Cyfarwyddydau Grŵp Cleifion Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru (safle allanol).
Adnoddau clinigol pellach a gwybodaeth
- Brechlynnau’r ffliw sy’n cael eu marchnata yn y du ar wefan llywodraeth DU.
- Cwestiynau cyffredin am y ffliw i weithwyr iechyd proffesiynol ar SharePoint (mae angen cysylltiad â rhwydwaith GIG Cymru).
- Siart rheoli brechu rhag y ffliw ar gyfer unigolion ag alergedd i wyau.
- Canllawiau gwahoddiad ffliw i weithwyr gofal iechyd.
- Uchafu brechiad ffliw ymhlith staff gofal cymdeithasol – Canllawiau gwahoddiad – Dwyieithog.
- Brechiad y ffliw: cynyddu’r niferoedd sy’n cael y brechiad (canllaw NICE) ar wefan NICE.
- Crynodeb o ganllawiau NICE ar cynyddu’r niferoedd sy’n cael y brechiad.
- Amserlen imiwneiddio rheolaidd gyflawn.
- Poster proffesiynol gofal iechyd.
- Poster ei ddal, ei binio, lladd.
- Mae eich brechlyn ffliw yn barod i chi.
Y niferoedd sy’n cael y brechiad
Mae gwybodaeth am yr oruchwyliaeth ar y ffliw, gan gynnwys y niferoedd sy’n cael y brechiad, i’w gweld yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: Adroddiad wythnosol y ffliw a haint anadlol acíwt (I’w ddod yn fuan).
Mae posib defnyddio ‘cyflymderometr’ i ddangos data am y niferoedd sy’n cael brechiad y ffliw. Ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol a hoffai greu eu cyflymderometr eu hunain ar gyfer y niferoedd sy’n cael y brechiad, dyma dempled sy’n cynnwys cyfarwyddiadau.
Adnoddau templed ffliw
- Templed adroddiad ffliw diwedd tymor ar gyfer practisau cyffredinol – Dwyieithog.
- Llythyr cyffredinol hysbysu ffliw i feddyg teulu – Dwyieithog.
- Llythyr hysbysu am y ffliw cyflogwr – Dwyieithog.
- Templed llythyr gwahoddiad brechiad ffliw i blant 2 i 3 oed – Dwyieithog.
- Templed llythyr gwahoddiad brechiad ffliw i oedolion – Dwyieithog.
- Templed llythyr gwahoddiad brechiad COVID-19 a ffliw i oedolion – Dwyieithog.
- Llythyr gwahoddiad y ffliw i weithwyr cartref gofal – Dwyieithog.
- Llythyr gwahoddiad y ffliw i weithwyr gofal iechyd – Dwyieithog.
- Llythyr gwahoddiad y ffliw i weithwyr gofal cartref – Dwyieithog.
- Negeseuon testun banc dwyieithog SMS yn gwahodd pobl i gael brechlyn ffliw (safle allanol).
Anoddau hyrwyddwyr brechu
Data a goruchwyliaeth
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Chwefror 2026