Neidio i'r cynnwys

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn - Cymhwysedd i blant a phobl ifanc ar gyfer y brechlyn ffliw

Pa blant all gael brechlyn ffliw am ddim?

Gall pob plentyn o ddwy oed gael brechlyn ffliw am ddim yn 2024/25. Mae hyn yn cynnwys: 

  • Pob plentyn dwy neu dair oed ar 31 Awst 2024 
  • Pob plentyn yn yr ysgol gynradd 
  • Pob plentyn ym mlynyddoedd ysgol uwchradd 7 i 11 
  • Mae plant nad ydynt yn mynychu’r ysgol hefyd yn gymwys i gael y brechlyn ffliw trwy eu practis Meddyg Teulu. 

Hefyd, plant chwe mis oed neu drosodd sydd ag unrhyw un o’r cyflyrau iechyd hirdymor sy’n eu rhoi mewn mwy o berygl o gael ffliw. 

Pam mae angen brechlyn ffliw ar blant a rhai pobl ifanc?

Mae’r ffliw yn cael ei achosi gan feirysau ac mae’n lledaenu’n hawdd. Gall unrhyw un gael y ffliw, ond plant sydd â’r gyfradd heintio uchaf, a gall ffliw fod yn ddifrifol iddyn nhw. 

Gall cymhlethdodau gynnwys broncitis, niwmonia (heintiau ar yr ysgyfaint) a heintiau ar y glust. 

Mae rhai plant yn mynd mor sâl mae angen iddynt fynd i’r ysbyty. 

Beth os oes gan fy mhlentyn gyflwr iechyd?

Os yw eich plentyn yn chwe mis oed neu’n hŷn ac mae ganddo un o’r cyflyrau iechyd canlynol, mae’n bwysig ei fod yn cael brechlyn ffliw bob blwyddyn gan ei fod yn wynebu risg uwch o gymhlethdodau o’r ffliw. 

Mae’r cyflyrau yn cynnwys: 

  • Diabetes 
  • Problem gyda’r galon 
  • Cwyn ar y frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys asthma sy’n gofyn am anadlwyr neu dabledi steroid rheolaidd 
  • Clefyd yr arennau (o gam 3) 
  • Imiwnedd is oherwydd clefyd neu driniaeth (a hefyd cysylltiadau agos pobl yn y grŵp hwn) 
  • Afiechyd yr afu/iau 
  • Wedi cael strôc neu strôc fach 
  • Cyflwr niwrolegol 
  • Dueg goll neu broblem gyda’r ddueg 
  • Anabledd dysgu 
  • Salwch meddwl difrifol 
  • Pobl ifanc dros 16 oed (oedran ar 1 Medi 2024) gyda Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu fwy
  • Epilepsi 
  • Mae plant a phobl ifanc yng Nghymru sy’n ddigartref hefyd yn gymwys i gael brechiad rhag y ffliw. 

Gall plant yn y grwpiau hyn gael eu brechlyn yn eu hysgol os ydynt ym mlynyddoedd ysgol y dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11, neu yn eu meddygfa. 

Gofalwyr ifanc

Mae’n bwysig iawn i blant a phobl ifanc sy’n gofalu am rywun sy’n agored i niwed o ran y ffliw a’i gymhlethdodau naill ai oherwydd cyflwr iechyd hirdymor neu eu hoedran, gael brechlyn ffliw bob blwyddyn. Mae’n helpu i’w hamddiffyn a hefyd y person y maent yn gofalu amdano. 

A oes plant a phobl ifanc na ddylent gael y chwistrell drwynol?

Ni ellir rhoi’r brechlyn chwistrell drwynol i unrhyw un sydd: 

  • o dan ddwy oed; 
  • 18 oed neu drosodd; 
  • yn feichiog; 
  • ar driniaeth asbrin (salisylad) hirdymor; 
  • yn cymryd tabledi steroid dos uchel (ar hyn o bryd, neu yn ystod y pythefnos diwethaf); neu’r 
  • mewn cysylltiad agos â rhywun sydd â system imiwnedd wan iawn (er enghraifft, ar ôl trawsblaniad mêr esgyrn) ac sy’n derbyn gofal mewn amgylchedd gwarchodedig. 

Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud asesiad cyn rhoi’r brechlyn. 

Ni ellir rhoi’r brechlyn chwistrell drwynol i unrhyw un sydd: 

  • wedi cael adwaith alergaidd difrifol sy’n bygwth bywyd i frechlyn ffliw (neu unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn); 
  • â system imiwnedd wan; 
  • â brest sy’n wichlyd ar ddiwrnod y brechiad neu yn y tri diwrnod blaenorol; 
  • wedi cynyddu’r defnydd o fewnanadlwyr asthma yn ystod y tri diwrnod blaenorol. 

Mae pigiad brechlyn ffliw ar gael blant a phobl na allant gael y brechlyn chwistrell drwynol, o’u meddygfa. 

Dylai plant a phobl ifanc ag asthma sydd angen steroidau drwy’r geg rheolaidd, neu yr oedd angen triniaeth gofal dwys arnynt ar gyfer asthma yn y gorffennol, gael eu hatgyfeirio i arbenigwr i gael cyngor i gael y brechlyn chwistrell drwynol. Gellir cynnig pigiad brechlyn ffliw iddynt yn lle hynny. 

Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm dros ohirio brechu rhag y ffliw. Os yw eich plentyn yn sâl gyda thymheredd uchel mae’n well oedi ei frechiad nes ei fod yn teimlo’n well.  

Os na all eich plentyn osgoi cysylltiad â rhywun sydd ag imiwnedd gwan iawn, fel rhywun sydd wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn yn ddiweddar, dylech drafod hyn gyda’ch meddyg neu nyrs cyn i’ch plentyn gael y brechlyn chwistrell drwynol. Gallant benderfynu cynnig pigiad brechlyn ffliw i’ch plentyn yn lle hynny. 

A all fy mhlentyn gael y brechlyn os oes ganddo alergedd i wyau?

Gall y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc sydd ag alergedd i wyau gael y brechlyn chwistrell drwynol heb unrhyw broblemau. Dylai’r nifer bach o unigolion yr oedd angen arnynt driniaeth gofal dwys yn flaenorol (adwaith alergaidd prin, sy’n bygwth bywyd) i wyau gael eu hatgyfeirio i arbenigwr. Mae pigiadau brechlyn ffliw nad ydynt yn cynnwys wyau ar gael. 

A yw’r brechlyn chwistrell drwynol yn cynnwys gelatin?

Ydy, mae’n cynnwys olion o gelatin moch pur iawn sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio mewn amrywiaeth o feddyginiaethau hanfodol. 

Y brechlyn chwistrell drwynol yw’r brechlyn ffliw gorau i blant a phobl ifanc, ond mae pigiadau ffliw yn rhydd o gelatin felly os yw’n well gennych i’ch plentyn gael hyn fel dewis arall cysylltwch â’r feddygfa fel nad yw’n colli allan. 

Mae mwy o wybodaeth am gelatin moch ar y pamffled brechlynnau a gelatin moch.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 1af Gorffennaf 2025