Neidio i'r cynnwys

Cymhwystra ar gyfer y brechlyn - Eglurhad o gymhwystra ar gyfer y brechlyn ffliw

Mae’r ffliw yn fwy tebygol o fod yn ddifrifol os oes gennych chi gyflwr iechyd tymor hir, os ydych chi’n feichiog, neu’n hŷn.  

Gall y ffliw hefyd fod yn ddifrifol i blant ifanc. 

 Y llynedd yng Nghymru, cafodd bron i filiwn o bobl eu brechlyn ffliw. Mae hynny tua un o bob tri o bobl. 

Os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol i chi, hyd yn oed os ydych yn teimlo’n iach, rydych yn fwy tebygol o gael cymhlethdodau o’r ffliw os byddwch yn ei ddal, ac fe’ch cynghorir i gael brechiad y ffliw os: 

  • Rydych chi’n feichiog
  • Rydych chi’n 65 oed neu’n hŷn
  • Rydych chi rhwng chwe mis a 64 oed ac mae gennych gyflwr iechyd tymor hir sy’n eich rhoi mewn mwy o berygl o’r ffliw, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
    • Diabetes
    • Problem gyda’r galon
    • Cwyn gyda’r frest neu anawsterau anadlu, gan gynnwys clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) ac asthma sydd angen mewnanadlydd steroid neu dabledi rheolaidd
    • Clefyd yr arennau (o gam 3)
    • System imiwnedd wan o ganlyniad i afiechyd neu driniaeth (a hefyd cysylltiadau agos â phobl yn y grŵp hwn) 
    • Clefyd yr iau / afu
    • Wedi cael strôc neu strôc fechan
    • Cyflwr niwrolegol fel clefyd Parkinson, neu glefyd motor niwron
    • Dueg ar goll neu broblem gyda’r dueg
    • Anabledd dysgu
    • Salwch meddwl difrifol
    • Gordewdra difrifol (gordewdra dosbarth III). Diffinnir hyn fel y rhai â Mynegai Màs y Corff (BMI) o 40 neu uwch, 16 oed neu hŷn.
    • Epilepsi
  • Rydych chi’n byw mewn cartref gofal
  • Rydych chi’n ddigartref 
  • Rydych chi’n weithiwr dofednod sy’n wynebu risg uchel 

Mae’r grwpiau canlynol hefyd yn cael eu cynghori i gael brechiad y ffliw i’w hamddiffyn nhw a’r bobl o’u cwmpas:

  • Plant dwy a thair oed (oedran ar 31 Awst 2024)
  • Plant a phobl ifanc yn yr ysgol o’r dosbarth Derbyn i Flwyddyn 11
  • Gofalwyr
  • Pobl sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda chleifion/chleientiaid ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol
  • Ymatebwyr cyntaf ac aelodau o sefydliadau gwirfoddol sy’n darparu cymorth cyntaf brys wedi’i gynllunio
  • Unigolion sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan 

Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechiad y ffliw drwy chwistrell trwyn gan mai dyma’r brechiad ffliw gorau iddyn nhw. Mae’n ddafnau mân sy’n cael eu chwistrellu i fyny’r trwyn ac mae posib ei roi o ddwy oed.

Os yw eich plentyn yn gymwys i gael brechiad y ffliw, dylai ei feddygfa neu nyrs yr ysgol gysylltu â chi. Os ydych chi’n meddwl y gallai eich plentyn fod wedi methu ei frechiad, cysylltwch â’r nyrs ysgol os yw o oedran ysgol, neu’r feddygfa os nad yw yn yr ysgol.

Os ydych chi’n meddwl efallai eich bod wedi methu’r gwahoddiad i gael brechiad y ffliw, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu’ch fferyllfa gymunedol.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 1af Gorffennaf 2025