Neidio i'r cynnwys

Diogelu iechyd mewn lleoliadau plant a phobl ifanc yn cynnwys addysg

Mae’r canllawiau hyn wedi’u diweddaru i ddarparu canllaw ymarferol i staff mewn lleoliadau plant a phobl ifanc, gan gynnwys addysg, y rhai sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol plant a phobl ifanc ac ar draws yr ystad ddiogel, ar reoli amrywiaeth o heintiau, a lleihau unrhyw darfu. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar reoli coronafeirws (COVID-19) a heintiau eraill. Dylai darparwyr addysg bellach ac addysg uwch gymryd sylw o’r canllawiau hyn hefyd.