Brechlyn ffliw - Brechlyn ffliw ar gyfer plant a phobl ifanc
Pa blant all gael brechiad y ffliw am ddim?
I ddarganfod pa blant sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim, ewch i Cymhwystra ar gyfer y brechlyn – Iechyd Cyhoeddus Cymru .
Pam mae angen brechlyn ffliw ar blant a rhai pobl ifanc?
Mae’r ffliw yn cael ei achosi gan feirysau ac mae’n lledaenu’n hawdd. Gall unrhyw un gael y ffliw, ond plant oedran ysgol sydd â’r gyfradd uchaf o haint a gall y ffliw fod yn ddifrifol iddyn nhw. Mae gan blant dan bump oed un o’r cyfraddau derbyn i’r ysbyty uchaf oherwydd y ffliw o’i gymharu â grwpiau oedran eraill.
Gall cymhlethdodau gynnwys broncitis a niwmonia (heintiau ar yr ysgyfaint) a heintiau clust.
Mae rhai plant yn mynd mor sâl fel bod angen iddynt fynd i’r ysbyty.
I gael rhagor o wybodaeth am symptomau broncitis, niwmonia a heintiau clust, ewch i’r dolenni isod:
- Niwmonia ar wefan GIG 111 Cymru.
- Broncitis ar wefan GIG 111 Cymru.
- Haint ar y glust ar wefan GIG 111 Cymru.
Sut mae brechiad y ffliw yn helpu?
Bydd cael brechlyn ffliw yn helpu i amddiffyn eich plentyn rhag y ffliw.
Mae amddiffyniad yn dechrau tua phythefnos ar ôl cael y brechlyn. Mae’r brechlyn fel arfer yn cynnig amddiffyniad da i blant rhag y ffliw.
Mae hefyd yn helpu i leihau’r siawns y bydd plant a phobl ifanc yn lledaenu’r ffliw i eraill sy’n wynebu risg uchel o’r ffliw, fel babanod ifanc, oedolion hŷn, a’r rhai â chyflyrau iechyd hirdymor.
Mae rhai pobl yn dal i gael y ffliw hyd yn oed ar ôl cael brechlyn ffliw, ond yn aml gyda symptomau ysgafnach. Nid yw brechlynnau ffliw yn amddiffyn rhag annwyd, feirysau anadlol eraill neu salwch gaeaf arall.
Pa mor efeithiol yw brechlynnau ffliw a roddir i blant?
Mae brechlynnau ffliw yn helpu i amddiffyn pobl rhag y ffliw a’r cymhlethdodau posibl a achosir gan y ffliw.
Mae nifer o frechlynnau ffliw ar gael ar gyfer gwahanol grwpiau oedran. Mae’r brechlynnau sy’n cael eu hargymell ar hyn o bryd wedi’u profi i fod yn effeithiol trwy dreialon clinigol ac astudiaethau o’u defnydd yn y DU dros sawl blwyddyn.
Dyma’r ddau brif fath o frechlynnau ffliw i blant yn y DU.
- Y brechlyn ffliw gwanedig byw (LAIV), a roddir fel chwistrell i fyny’r trwyn.
- Os na ellir rhoi’r chwistrell trwyn am resymau meddygol, neu oherwydd ei fod yn anaddas fel arall, gall plant gael y brechlyn ffliw chwistrelladwy sy’n seiliedig ar gelloedd (IIVc) yn lle hynny. Rhoddir y brechlyn hwn fel pigiad.
Mae’r ddau frechlyn yn cynnig amddiffyniad da iawn i blant ac oedolion ifanc.
Feirysau ffliw gwahanol
Mae gwahanol fathau o feirysau ffliw yn cylchredeg ac yn achosi haint bob blwyddyn. Mae’r rhain yn newid dros amser. Oherwydd hyn, mae’n anodd cymharu’r brechlynnau’n uniongyrchol a dweud pa un sydd fwyaf effeithiol ar y cyfan.
Y tri phrif fath o feirysau ffliw, sy’n cylchredeg y rhan fwyaf o flynyddoedd, yw:
- ffliw A(H1)
- ffliw A(H3), a
- ffliw B.
Yn ystod gaeaf 2024 i 2025, gwnaeth y chwistrell trwyn a’r pigiad a gynigiwyd i blant eu hamddiffyn rhag y tri math o feirws ffliw. Ar gyfer y ddau feirws ffliw mwyaf cyffredin y tymor hwnnw, gweithiodd y chwistrell trwyn yn well ar gyfer un math a gweithiodd y pigiad yn well ar gyfer y llall. Roedd y lefel gyffredinol o effeithiolrwydd yn debyg ar gyfer y ddau frechlyn.
Mae feirysau ffliw yn newid (mwtadu) weithiau. Mae hyn yn eu gwneud yn anoddach i ymladd yn eu herbyn, gan eu bod yn wahanol i’r rhai y mae brechlynnau’n amddiffyn yn eu herbyn. Gallai’r chwistrell trwyn roi gwell amddiffyniad yn erbyn y feirysau wedi mwtadu hyn oherwydd sut mae’n helpu’r corff i ddatblygu imiwnedd.
Argymhelliad terfynol
Yn seiliedig ar dystiolaeth gyfredol, y chwistrell trwyn yw’r brechlyn ffliw a argymhellir o hyd ar gyfer plant rhwng dwy a 17 oed, oni bai nad ydynt yn gallu ei gael am resymau meddygol neu resymau eraill.
Oes gan frechiadau’r ffliw unrhyw sgîl-effeithiau?
Chwistrelliad trwynol rhag y ffliw
Ar ôl y brechiad chwistrelliad trwynol rhag y ffliw, mae rhai o’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin ymhlith plant a phobl ifanc yn ystod y diwrnod neu ddau cyntaf yn cynnwys:
- trwyn yn rhedeg neu wedi’i blocio
- llai o archwaeth
- gwendid
- twymyn
- cur pen, ac
- phoenau yn y cyhyrau.
Chwistrelliad brechlyn rhag y ffliw
Os oes gan blentyn neu berson ifanc y brechiad ffliw trwy chwistrelliad, mae rhai o’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
- poen, cleisio, cochni, caledwch neu chwydd lle rhoddwyd y pigiad
- cur pen /pen tost
- poen yn y cyhyrau
- blinder
- newid mewn arferion bwyta, gan gynnwys colli archwa
- tymer flin
- teimlo’n gysglyd, a
- dolur rhydd.
Mae brechlynnau rhag y ffliw yn ddiogel iawn.
Ni fydd y brechlyn ffliw yn achosi ffliw.
Ar gyfer pob sgil-effeithiau ac i gael rhagor o wybodaeth am y brechlyn, gweler y daflen wybodaeth berthnasol i gleifion:
Plant dwy oed a phobl ifanc o dan 18 oed
- Chwistrell trwyn AstraZeneca UK Limited Fluenz Trivalent LAIV (brechlyn ffliw byw wedi’i wanhau) (emc) (safle allanol)
Plant rhwng chwe mis i dan ddwy flynedd
- Seqirus TIVc (brechlyn ffliw trifalent sy’n seiliedig ar gelloedd – wedi’i anactifadu) (emc) (safle allanol)
- Sylwer: Gellir cynnig y brechlyn ffliw fel pigiad i blant rhwng dwy a 17 oed na allant gael y brechlyn chwistrell trwyn, er enghraifft, oherwydd rhai cyflyrau iechyd neu oherwydd ei fod yn cynnwys gelatin porc.
Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.
Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.
Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau a amheuir o’r brechlyn ar-lein yn www.mhra.gov.uk/yellowcard (safle allanol, Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9yb i yp).
Beth os oes gan fy mhlentyn gyflwr iechyd?
Os yw’ch plentyn yn chwe mis oed neu’n hŷn a bod ganddo rai cyflyrau iechyd, mae’n bwysig ei fod yn cael brechlyn ffliw bob blwyddyn gan ei fod mewn mwy o berygl o gymhlethdodau o’r ffliw.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn – Iechyd Cyhoeddus Cymru
Gofalwyr ifanc
Dylai plant a phobl ifanc sy’n gofalu am rywun a allai fynd yn sâl iawn o’r ffliw, fel person hŷn neu rywun â phroblemau iechyd, gael y brechlyn ffliw bob blwyddyn. Gall helpu i’w hamddiffyn nhw a’r person maen nhw’n gofalu amdano.
Oes angen i mi wneud unrhyw beth?
Yn gyffredinol, gwahoddir plant dwy neu dair (oed ar 31 Awst 2024) i gael eu brechlyn ffliw yn eu meddygfa.
Mewn rhai ardaloedd, mae plant tair oed a rhai pedair oed yn cael cynnig y brechlyn yn y feithrinfa.
Os yw’ch plentyn yn y grŵp oedran hwn ac nad yw wedi cael gwahoddiad am y brechlyn erbyn diwedd mis Tachwedd, cysylltwch â’i feddygfa.
Fel arfer, bydd plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r ysgol yn cael eu brechlyn ffliw yn yr ysgol. Bydd rhieni’n cael gwybodaeth am y brechlyn, ynghyd â ffurflen gydsynio bapur neu ddigidol. Darllenwch yr wybodaeth, yna llenwch a dychwelwch y ffurflen gydsynio cyn gynted â phosibl.
Mewn rhai achosion, efallai y bydd pobl ifanc o dan 16 oed yn gallu cydsynio eu hunain, os ydyn nhw’n ddigon aeddfed i ddeall yn llawn yr hyn sy’n cael ei gynnig. Bydd y sawl sy’n rhoi’r brechiad yn gallu ateb cwestiynau.
Gall plant a phobl ifanc pedair oed neu hŷn nad ydynt yn yr ysgol nac addysg brif ffrwd gael eu brechlyn ffliw yn eu practisiau meddygon teulu neu ganolfan frechu gymunedol. Bydd angen i chi wneud apwyntiad a gofyn i’ch bwrdd iechyd lleol beth i’w wneud nesaf.
Os yw’ch plentyn o dan ddwy oed, neu’n 16 neu 17 oed, ac mewn mwy o berygl o gymhlethdodau o’r ffliw oherwydd cyflwr iechyd, dylai ei bractis meddygon teulu ei wahodd i gael ei frechlyn.
Yn ddelfrydol, dylid rhoi’r brechlyn ffliw yn gynnar yn yr hydref cyn i’r ffliw ddechrau lledaenu. Fodd bynnag, gellir ei roi ar ddyddiad yn ddiweddarach hefyd.
Os bydd eich plentyn yn methu cael ei frechlyn ffliw, siaradwch â’i ymwelydd iechyd (os yw’r plentyn o dan bump oed), nyrs yr ysgol neu bractis meddygon teulu am gael y brechlyn.
Pa fath o frechiad ffliw sy’n cael ei roi i blant a phobl ifanc?
Bydd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc yn cael brechlyn chwistrell trwyn yn yr ysgol. Mae’n anwedd mân wedi’i chwistrellu i fyny’r trwyn a gellir ei roi o ddwy oed. Mae’r brechlyn yn ddi-boen ac yn ddiogel, ac nid yw’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc fel rheol yn ofidus ar ôl ei gael.
Gall plant a phobl ifanc yn yr oedrannau uchod sy’n cael eu haddysgu gartref neu nad ydynt mewn addysg brif ffrwd gael y brechlyn ffliw hefyd.
Os bydd eich plentyn yn methu cael ei frechlyn ffliw, siaradwch â’i ymwelydd iechyd (os yw’r plentyn o dan bump oed), nyrs ysgol, meddyg teulu neu nyrs practis am gael y brechlyn.
Ni ddylid rhoi’r brechlyn chwistrelliad trwynol i unrhyw un sydd:
- o dan ddwy flwydd oed
- yn cael triniaeth aspirin (salicylate) hirdymor
- wedi cael adwaith alergaidd difrifol sy’n peryglu bywyd i’r brechlyn neu ei gynhwysion
- â system imiwnedd wan oherwydd clefyd neu driniaeth
- sy’n feichiog
- â brest wichiog ar ddiwrnod y brechiad neu yn ystod y tridiau blaenorol, neu
- wedi cynyddu’r defnydd o’u hanadlyddion asthma yn ystod y tridiau blaenorol.
Mae pigiad brechlyn ffliw ar gael o bractisiau meddygon teulu ar gyfer plant a phobl ifanc na allant gael y brechlyn chwistrell trwyn.
Mae rhai sefyllfaoedd lle dylech chi gael cyngor ynglŷn â rhoi’r brechlyn chwistrell trwyn i’ch plentyn. Os yw unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, nyrs ysgol, meddyg teulu neu nyrs ymarfer i gael rhagor o gyngor cyn i’ch plentyn gael y brechlyn ffliw.
- Mae gan eich plentyn asthma ac mae angen steroidau geneuol rheolaidd arno neu mae wedi bod angen
triniaeth gofal dwys ar gyfer ei asthma arno yn y gorffennol. Yn yr achos hwn, dylai gael cyngor am y brechlyn chwistrell trwyn gan arbenigwr. Efallai y cynigir pigiad brechlyn ffliw iddo yn lle hynny neu efallai y bydd angen iddynt gael y brechlyn chwistrelliad trwyn yn yr ysbyty.
- Mae eich plentyn yn cael mewnblaniad yn y cochlea yn yr wythnos cyn ei apwyntiad brechu chwistrell trwyn, mae i gael y brechiad yn y pythefnos ar ôl cael ei fewnblaniad, neu mae problemau sy’n gysylltiedig â’r mewnblaniad.
- Mae gan eich plentyn annormaleddau’r wyneb a’r penglog heb eu trwsio (gwahaniaeth yn siâp yr wyneb neu’r benglog nad yw wedi’i gywiro gyda llawdriniaeth).
- Ni all eich plentyn osgoi cysylltiad â rhywun sydd ag imiwnedd gwan iawn, fel rhywun sydd wedi cael trawsblaniad mêr esgyrn yn ddiweddar.
Yn y sefyllfaoedd hyn, gall eich plentyn gael y brechlyn ffliw trwy bigiad yn lle hynny. Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud asesiad cyn rhoi’r brechlyn.
A all fy mhlentyn gael y brechlyn os yw’n sâl ar ddiwrnod apwyntiad y brechlyn?
Nid yw annwyd neu fân salwch arall yn rheswm i ohirio brechiad rhag y ffliw. Os yw’ch plentyn yn sâl gyda thymheredd uchel, mae’n well gohirio ei frechiad nes ei fod yn teimlo’n well.
Cofiwch ddilyn y cyngor diweddaraf os oes gan eich plentyn unrhyw symptomau COVID-19. Ewch i Canllawiau i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19 | LLYW.CYMRU (safle allanol)
Oes posib i fy mhlentyn gael y brechiad os oes ganddo alergedd i wyau?
Gellir rhoi’r brechlyn chwistrell trwyn yn ddiogel i’r rhan fwyaf o blant sydd ag alergedd i wyau. Os yw eich plentyn wedi cael adwaith difrifol (sy’n peryglu bywyd) i wy a oedd angen triniaeth gofal dwys, dylid cynnig brechlyn ffliw priodol iddo drwy bigiad.
Siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, nyrs ysgol, meddyg teulu neu nyrs practis am ragor o gyngor.
A ellir rhoi’r brechlyn ffliw ar yr un pryd â brechlynnau eraill?
Gall y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc sydd ag alergedd i wyau dderbyn y brechlyn chwistrelliad trwynol heb unrhyw broblemau. Dylid cyfeirio’r nifer fach o unigolion sydd wedi bod angen triniaeth gofal dwys ar gyfer anaffylacsis (adwaith alergaidd prin sy’n bygwth bywyd) i wyau at arbenigwr. Mae pigiadau brechlyn ffliw heb wyau ar gael.
Ydi’r brechiad drwy chwistrell trwyn yn cynnwys gelatin?
Mae brechlyn ffliw chwistrell trwyn yn cynnwys olion bach o gelatin porc wedi’i buro’n dda.
Dyma’r brechlyn ffliw a argymhellir ar gyfer y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc.
Ni fydd rhai pobl yn bwyta gelatin porc oherwydd eu ffydd. Mae cymunedau Mwslimaidd ac Iddewig wedi cymeradwyo defnyddio’r brechlyn chwistrell drwynol ffliw. Mae hyn oherwydd bod y chwistrell trwyn ffliw yn gynnyrch nad yw drwy’r geg ac yn feddyginiaeth.
Os penderfynwch nad ydych chi eisiau i’ch plentyn gael y chwistrell trwyn, gallant gael pigiad yn lle hynny. Nid yw hyn yn cynnwys gelatin porc. Gallwch amlygu hyn ar eich ffurflen gydsynio. Neu gallwch gysylltu â’ch ymwelydd iechyd, nyrs yr ysgol, tîm imiwneiddio neu feddygfa’r meddyg teulu i drafod gyda nhw sut i gael y pigiad.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gelatin porc yn phw.nhs.wales/GelatinMoch
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 18fed Chwefror 2026