Brechlyn dTaP/IPV (4 mewn 1) - Diogelwch ac effeithiolrwydd
A oes gan y brechlyn unrhyw sgil-effeithiau?
Mae miliynau o ddosau o’r brechlyn wedi’u defnyddio ac mae ganddo hanes da iawn o ddiogelwch.
Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgil-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac yn rhai tymor byr, ac ni fydd pawb yn eu cael.
Mae sgil-effeithiau’r brechlyn yn fach o’u cymharu â mynd yn ddifrifol wael o’r clefydau.
Mae’r sgil-effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys:
- poen, cochni neu chwydd yn safle’r pigiad
- dolur rhydd
- blinder
- twymyn
Mae sgil-effeithiau prin iawn y brechlyn yn cynnwys:
- adweithiau alergaidd, megis chwydd ar yr wyneb, y gwefusau, y tafod neu’r gwddf, llosg danadl (brech chwyddedig, sy’n cosi), anhawster anadlu neu lyncu, a theimlo’n benysgafn.
Yn anaml, gall pobl gael adwaith difrifol yn fuan ar ôl cael eu brechu, sy’n achosi anawsterau anadlu a gall beri iddynt lewygu. Gelwir hyn yn adwaith anaffylactig. Gall ddigwydd hefyd gyda meddyginiaethau eraill a bwyd. Mae’r adweithiau hyn yn hynod o brin, ac yn effeithio ar lai nag un mewn miliwn o bobl. Mae staff sy’n rhoi brechiadau wedi’u hyfforddi i reoli’r adweithiau hyn.
Gall pobl sy’n cael adwaith anaffylactig gael eu trin yn llwyddiannus ac fel arfer maent yn gwella o fewn ychydig oriau.
Mae adroddiadau am yr holl sgil-effeithiau yn y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am sgil-effeithiau, ewch i:
Os bydd symptomau eich plentyn yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Dylech roi gwybod ar-lein am sgil-effeithiau a amheuir brechlynnau a meddyginiaethau ar Yellow Card (Saesneg yn unig), drwy lawrlwytho ap y Cerdyn Melyn, neu drwy ffonio 0800 731 6789 (dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy mhlentyn yn teimlo’n sâl ar ôl y brechiad?
Gall dos o’r cryfder cywir o baracetamol hylif helpu i leihau twymyn eich plentyn. Darllenwch y cyfarwyddiadau ar y botel yn ofalus iawn a rhowch y dos cywir ar gyfer oedran eich plentyn. Efallai y bydd angen i chi roi dos arall bedair i chwe awr yn ddiweddarach. Nid ydym yn argymell paracetamol hylif cyn brechu i atal twymyn.
Cofiwch – ni ddylai plant o dan 16 oed gymryd meddyginiaethau sy’n cynnwys aspirin.
Os ydych yn poeni am eich plentyn ar ôl iddo gael y brechlyn, dylech siarad â’ch ymwelydd iechyd, meddyg teulu neu nyrs practis. Gallwch hefyd gysylltu â GIG Cymru drwy ffonio 111. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
A all fy mhlentyn ddal i gael yr heintiau hyn os caiff ei frechu?
Y brechlyn 4-mewn-1 yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o ddifftheria, tetanws, y pâs, polio, Hib a hepatitis B. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r clefydau hyn, hyd yn oed os ydych chi neu’ch plentyn yn cael eich brechu.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am difftheria (Saesneg yn unig), tetanws (Saesneg yn unig), y pâs a pholio (Saesneg yn unig).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 16eg Rhagfyr 2025