Neidio i'r cynnwys

Brechiad y pas (pertwsis) - Diogelwch ac effeithiolrwydd

Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o’r pas. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau’r pas, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.

I gael rhagor o wybodaeth am y pas ewch i wefan GIG 111 Cymru neu os hoffech ddysgu mwy am y afiechyd, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i’w helpu ar ein tudalen y pas.

Diogelwch y brechlyn mewn beichiogrwydd

Nid oes tystiolaeth bod y brechlyn a gynigir yn ystod beichiogrwydd yn risg i fenywod beichiog, y beichiogrwydd neu’r baban. Nid yw’n frechlyn byw, felly ni allwch gael y pas ohono. 

Mae’r brechlyn a gewch wedi’i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA). Mae astudiaethau’n dangos nad oes unrhyw risgiau i feichiogrwydd yn cael eu hachosi gan y brechlyn. Mae cyfraddau babanod normal, iach yr un fath ar gyfer menywod sydd wedi’u brechu a heb eu brechu.  

Mae’r brechlyn yn hynod effeithiol ac mae ganddo hanes diogelwch rhagorol. Rhoddir miliynau o ddosau ledled y byd. 

Nid oes ffordd well na’r brechiad o amddiffyn eich baban rhag y pas yn ystod wythnosau cyntaf ei fywyd. Bydd yr imiwnedd a gewch o’r brechlyn yn trosglwyddo i’ch baban drwy’r brych. Mae’r brych y tu mewn i’ch croth ac mae’n cysylltu eich cyflenwad gwaed chi â’ch baban yn y groth.  

Efallai bod eich amddiffyniad (trwy naill ai gael y pas neu gael eich brechu pan oeddech yn ifanc) wedi pylu. Hyd yn oed os ydych yn bwriadu bwydo ar y fron, nid oes digon o amddiffyniad rhag y pas yn cael ei drosglwyddo yn llaeth y fron i amddiffyn eich baban.  

Mae cael eich brechu yn lleihau eich risg o gael eich heintio â’r pas a’r risg o drosglwyddo’r pas i’ch baban. 

Pwy na ddylai gael y brechlyn y pas?

Ychydig iawn o resymau sydd pam na allwch chi gael brechlyn y pas. Ni ddylid rhoi’r brechlyn i unrhyw un sydd wedi cael adwaith difrifol (sy’n bygwth bywyd) i ddos ​​blaenorol o’r brechlyn, neu unrhyw gynhwysyn yn y brechlyn. Dywedwch wrth eich darparwr gofal iechyd os oes gennych alergedd i latecs, gan fod brechlyn amgen addas ar gael ar gyfer y rhai ag alergedd i latecs. 

Sgîl-effeithiau’r brechlyn

Fel pob meddyginiaeth, gall brechlynnau achosi sgîl-effeithiau. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain yn ysgafn ac nid ydynt yn para’n hir, ac nid yw pawb yn eu cael. Dim ond diwrnod neu ddau ddylai’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin bara.   

Sgîl-effeithiau cyffredin: 

Rhai o’r sgîl-effeithiau mwyaf cyffredin yn ystod y diwrnod neu ddau cyntaf yw:   

  • chwyddo, cochni neu dynerwch lle cawsoch y brechlyn  
  • pen tost/cur pen 
  • dolur rhydd 
  • poenau yn y corff neu wendid yn y cyhyrau 
  • blinder, a 
  • theimlo’n sâl. 

Sgîl-effeithiau prin iawn  

Mae adweithiau alergaidd difrifol yn brin iawn. Gall y rhain gynnwys: 

  • brech a all gosi neu ffurfio pothelli 
  • tafod neu wefusau glas 
  • llygaid ac wyneb chwyddedig 
  • anhawster wrth anadlu neu lyncu, a 
  • phendro neu golli ymwybyddiaeth. 

Gall adweithiau fel hyn ddigwydd cyn i chi adael eich practis meddyg teulu. Fodd bynnag, os cewch unrhyw un o’r symptomau hyn ar unrhyw adeg ar ôl cael y brechiad, dylech gysylltu â meddyg ar unwaith. 

Mae adroddiadau am yr holl sgîl-effeithiau i’w gweld ar y daflen wybodaeth i gleifion ar gyfer y brechlyn. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau, ewch i wefan medicines.org.uk:  

Os bydd eich symptomau chi neu eich plentyn yn gwaethygu neu os ydych yn bryderus, cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111, neu cysylltwch â’ch practis meddyg teulu. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol. 

Dylech roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 15fed Awst 2025