Neidio i'r cynnwys

Brechiad y pas (pertwsis) - Cymhwysedd ac apwyntiadau

Beichiogrwydd 

Mae’n bwysig cael eich brechu ym mhob beichiogrwydd, hyd yn oed os ydych wedi cael y brechlyn o’r blaen.  

Gall pob menyw feichiog gael y brechlyn o wythnos 16 o’u beichiogrwydd. Mae’n well cael y brechlyn rhwng 16 a 32 wythnos o feichiogrwydd. Er y gallwch gael y brechlyn ar ôl 32 wythnos, efallai na fydd yn rhoi’r un lefel o amddiffyniad i’ch baban. Mae hyn oherwydd ei bod yn cymryd amser i’r brechlyn weithio.

Os na chawsoch chi frechlyn y pas tra’r oeddech chi’n feichiog, gallwch chi ei gael o hyd yn yr wyth wythnos ar ôl yr enedigaeth (hyd nes y bydd eich plentyn yn cael ei ddos ​​arferol cyntaf). Bydd hyn yn eich amddiffyn a gall eich atal rhag trosglwyddo’r pas i’ch baban, er na fydd yn amddiffyn y baban yn uniongyrchol.

Gwybodaeth:

Os byddwch yn cael y brechiad yn agos at yr amser y caiff eich babi ei eni, efallai y bydd yn llai effeithiol. Felly, cofiwch gael eich brechiad cyn gynted â phosibl, ar ôl i chi ddod yn gymwys ar ôl 16 wythnos o feichiogrwydd. 

Babanod a phlant    

Mae brechiad y pas yn cael ei gynnig i bob babi a phlentyn ifanc fel rhan o amserlen imiwneiddio plentyndod arferol y GIG. Hyd yn oed os ydych chi wedi cael brechiad y pas pan oeddech yn feichiog, bydd angen i’ch babi gael ei frechu rhag y pas eto. 

Mae babanod yn cael cynnig y brechiad rhag y pas yn wyth, 12 ac 16 wythnos oed. Wedyn mae plant cyn-ysgol yn cael cynnig pedwerydd brechiad y pas yn dair oed a phedwar mis. 

Mae’r amserlenni imiwneiddio arferol ar gyfer Cymru yn darparu gwybodaeth am frechiadau arferol ac anarferol. 

Gweithwyr gofal iechyd 

Gall gweithwyr gofal iechyd drosglwyddo heintiau i fabanod yn hawdd. Mae gweithwyr gofal iechyd sydd â chyswllt uniongyrchol â merched beichiog neu fabanod, a’r rhai nad ydynt wedi cael brechiad y pas yn ystod y pum mlynedd diwethaf, yn gymwys i gael brechiad fel rhan o’u gofal iechyd galwedigaethol. 

Sut i archebu

Bydd practisiau meddygon teulu a rhai clinigau cyn-geni yn rhoi’r brechlyn. Os ydych yn 16 wythnos yn feichiog ac nad ydych wedi cael cynnig y brechlyn, siaradwch â’ch bydwraig neu’ch practis meddyg teulu i wneud apwyntiad i gael eich brechu.  

Efallai y byddwch yn gymwys i gael brechlynnau eraill a argymhellir ar yr un pryd ag y byddwch yn cael eich brechlyn y pas. Siaradwch â’ch bydwraig neu nyrs practis am ragor o fanylion am y brechlynnau sydd eu hangen arnoch. 

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 15fed Awst 2025